Cefnogi teuluoedd gyda chostau byw gyda gwerth £30,000 o ofal plant am ddim

Mae teuluoedd yng Nghymru yn talu mwy nag yn unrhyw ran arall o'r DU am ofal plant, ac mae nifer yn methu fforddio hynny o gwbl. Mae hyn yn effeithio ar gyllidebau teuluoedd ac ar allu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.

Bydd cynnig gofal plant newydd Plaid Cymru yn cynnwys 20 awr am 48 wythnos y flwyddyn i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed – gwerth mwy na £30,000 y plentyn ar ôl ei gyflwyno'n llawn. Byddwn hefyd yn cadw'r 30 awr bresennol o ofal plant i blant 3-4 oed.

Rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd, cefnogi rhieni yn ôl i'r gwaith a sicrhau y gall pob plentyn gael mynediad at fanteision gofal plant o safon.