Codi cyfalaf i ariannu prosiectau datgarboneiddio – Plaid Cymru yn galw am Fond Gwyrdd Cymreig
Mae Plaid Cymru wedi galw am Fond Gwyrdd Cymreig i alluogi buddsoddiad cyfalaf yn economi Cymru
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid y gallai bondiau gwyrdd gael eu cyhoeddi ar gyfer prosiectau newydd neu rai sy'n bodoli eisoes sy'n sicrhau manteision amgylcheddol.
Dywedodd Mr Gruffydd - sy'n mynychu cynhadledd hinsawdd COP26 yn Glasgow heddiw (dydd Mercher 3 Tachwedd) - y byddai Bond Gwyrdd Cymru yn caniatáu i lywodraeth Cymru ariannu ymdrechion datgarboneiddio, ac yn ei dro yn cadw cyfran uwch o arbedion yng Nghymru.
Ar 9 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau ar gyfer gilt gwyrdd yn y DU, a chyhoeddwyd y cyntaf ar 21 Medi 2021, ac sydd wedi codi £10bn ar gyfer prosiectau gwyrdd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Llyr Gruffydd AS,
“Mae cymaint o botensial yng Nghymru – yn ein tirwedd a’n hadnoddau naturiol – a’r allwedd fydd sut yr ydym yn manteisio ar hynny.
“Byddai Bond Gwyrdd Cymreig yn caniatáu buddsoddi yn ein hamgylchedd, ein heconomi a’n seilwaith, ac yn caniatáu i ni ariannu ymdrechion datgarboneiddio.
“Er mwyn gwneud hynny, rhaid inni geisio’r pwerau sydd eu hangen i wireddu potensial a manteision amgylcheddol ac economaidd ein hadnoddau naturiol yn llawn. Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio datganoli pwerau dros ystâd y goron a phwerau ynni yn llawn.
“Dylai adnoddau Cymru gael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, i bobl Cymru, a byddai Bond Gwyrdd Cymru yn caniatáu i ni gadw cyfran fwy o arbedion yng Nghymru.”