Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn ymuno gydag ymgyrchydd dros ffoaduriaid yn erbyn y Mesur Ffiniau

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw (Llun 19 Gorffennaf) wedi ymuno gyda’r ymgyrchydd a’r ffoadur Joseff Gnagbo, o Gaerdydd, i wrthwynebu deddfwriaeth “greulon” Priti Patel am loches, fydd yn cael ei drafod yn y Senedd yr wythnos hon.

Bydd Ail Ddarlleniad y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau, sef conglfaen ‘Cynllun Newydd am Fewnfudo’  gelyniaethus Llywodraeth y DG, a fydd yn cychwyn ar ddydd Llun yn Nhŷ’r Cyffredin.

Bydd y Mesur pellgyrhaeddol hwn yn cyflwyno cosbau i bobl fydd yn cyrraedd yn y DG mewn ffyrdd a ystyrir gan y llywodraeth yn anghyfreithlon. Mae hyn yn tanseilio un o elfennau sylfaenol Confensiwn  Ffoaduriaid 1951 - na ddylai’r dull y mae rhywun yn cyrraedd gael unrhyw ddylanwad ar eu hawl neu beidio i gael lloches, nac a ddylid eu cydnabod fel ffoadur ai peidio.

Bydd hefyd yn ehangu stad y llety lloches, a fyddai, fwy na thebyg yn arwain at gartrefu mwy o bobl mewn safleoedd amhriodol megis barics Penalun yn Sir Benfro, a ddisgrifiwyd gan Brif Arolygydd Annibynnol Ffiniau a Mewnfudo (ICIBI) fel “tlodaidd, adfeiliedig ac anaddas fel llety tymor-hir”.

Mae'r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer prosesu ceisiadau am loches mewn gwledydd tramor, er bod sawl gwlad Ewropeaidd, gan gynnwys Ffrainc, eisoes wedi diystyru’r syniad o gytundebau ynghylch dychwelyd ceiswyr lloches. Ymatebodd Rwanda yn ddiweddar i adroddiadau y byddai'n cynnal canolbwynt anghysbell i Ddenmarc a'r DU trwy egluro nad oes cytundeb o'r fath.

Mae Joseff Gnagbo, yn wreiddiol o Côte d'Ivoire, yn gweithio fel gofalwr, cyfieithydd ac athro, ac yn gwirfoddoli i Gymdeithas yr Iaith. Mae wedi beirniadu’r “agwedd ddideimlad” a gymerwyd gan Lywodraeth y DG, a fydd, meddai, yn “tanseilio uchelgais Cymru i ddod yn Genedl Noddfa” ac yn “annog tensiynau rhwng cymunedau ac ynddynt”.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, a fydd yn siarad heddiw yn erbyn y Mesur yn yr Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, cyn y ddadl fod y Mesur yn “rhwygo ymrwymiadau rhyngwladol y DG dan y Confensiwn Ffoaduriaid” ac yn “ffurfioli creulondeb gan y wladwriaeth yn erbyn pobl fregus.”

Mae’r Cyngor Ffoaduriaid wedi disgrifio’r ddeddfwriaeth fel “mesur gwrth-ffoaduriaid” sy’n debyg o “gosbi llawer o bobl sy’n ceisio gwarchodaeth yn y wlad hon, a’u galw’n droseddwyr, a lleihau ar yr un pryd un o’r prif ffyrdd y gall ffoaduriaid yn gyfreithlon gyrraedd y DG.”

Wrth siarad cyn y ddadl yn San Steffan, dywedodd, Liz Saville Roberts AS:

“Dywed Cymru gydag un llais unedig heddiw: nid yn ein henw ni.

“Nid yn unig y mae Mesur Ffiniau creulon Priti Patel yn rhwygo ymrwymiadau rhyngwladol y DG dan y Confensiwn Ffoaduriaid, ac y mae hefyd yn ffurfioli creulondeb gan y wladwriaeth yn erbyn pobl fregus.

“Agwedd Priti Patel yw gweld ceiswyr lloches fel anghyfleuster y dylid eu gwthio ymaith rhag cyrraedd yma’n ddiogel yn y lle cyntaf, ac i guddio’r sawl sydd yn cyrraedd ymaith oddi wrth weddill cymdeithas. Trwy drin ceiswyr lloches fel troseddwyr ddylai gael eu cartrefu mewn llety anaddas yn hytrach na phobl y dylid eu helpu i integreiddio, mae’r Ysgrifennydd Cartref yn tanseilio uchelgais Llywodraeth Cymru a chymdeithas sifig ehangach Cymru o ddod yn Genedl Noddfa.

“Does dim modd chwaith i’r Mesur hwn weithio, gan ei fod yn disgwyl i wledydd eraill brosesu hawliadau lloches y DG. Mae’n bryd i’r Ysgrifennydd Cartref wynebu ei chyfrifoldebau ei hun a darparu atebion dyngarol a difrifol er mwyn croesawu’r sawl sy’n ceisio lloches.”

Ychwanegodd Joseff Gnagbo:

“Bydd agwedd ddideimlad Llywodraeth y DG yn tanseilio uchelgais Cymru i ddod yn Genedl Noddfa a bydd yn annog tensiynau rhwng cymunedau ac ynddynt.

“Rydym eisoes yn cael ein trin fel anhwylustod dan y drefn loches bresennol. Dan y diwygiadau hyn, cawn ein trin fel troseddwyr. Bydd merched a phlant yn ei chael yn amhosib ceisio lloches dan y polisïau hyn, fydd yn arwain at rwygo mwy o deuluoedd ar wahân.

“Ers i mi gyrraedd Cymru yn 2018 fel ceisiwr lloches, rwyf wedi trochi fy hun yn yr iaith a’r diwylliant, gan ddod yn rhugl mewn blwyddyn. Mae’r croeso a dderbyniais gan bobl Cymru bryd hynny yn gwrthgyferbynnu’n hallt gyda pholisïau creulon y Swyddfa Gartref. Rwyf eisiau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael mwy o help i gymhathu i gymdeithas Cymru. Gwaetha’r modd, mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynd ati i wneud hynny bron yn amhosib.”