“Brechlynnau byd-eang yw’r allwedd i atal ‘amrywiolion sy’n peri pryder’ – dyma’r gwirionedd anochel” – Heledd Fychan AS

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS wedi ei alw'n “foesol anghywir” bod gwledydd incwm uchel yn gwrthod rhannu brechlynnau COVID gyda gwledydd incwm isel.

Dim ond 8% o’r boblogaeth mewn gwledydd incwm isel sydd wedi derbyn un dos o’r brechlyn hyd yma.  

Dydd Iau yr 2il o Ragfyr, cyhoeddodd Lywodraeth San Steffan ei bod wedi prynu 200 miliwn o frechlynnau ychwanegol i'w defnyddio yn y DU dros y blynyddoedd nesaf, i fynd i'r afael â Omicron ac amrywiolion o bryder (variants of concern) yn y dyfodol.

Dadlodd Ms Fychan mai'r ffordd orau o baratoi ar gyfer yr ‘amrywiolion pryder’ (variants of concern) yw drwy frechu cymaint o'r boblogaeth fyd-eang â phosibl. Mae hi eisoes wedi bod yn feirniadol o'r brechlynnau gafodd eu gwastraffu am eu bod wedi troi’n anaddas i'w defnyddio. Ym mis Medi, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod 40,000 dos o frechlyn Astra Zeneca wedi'u dinistrio, tra bod ffigurau a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar yn dangos bod y cyfrif ledled y DU yn 600,000.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS,

Mae’n foesol anghywir y gall gwledydd incwm uchel fod yn cadw miliynau o frechlynnau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, tra mai dim ond 8% o’r boblogaeth o wledydd incwm isel sydd wedi cael pigiad. 

Yr wythnos hon rydym wedi cael ein hatgoffa fod y feirws yn newid ac yn esblygu pan fo’n cael ei drosglwyddo yn fyd-eang. Ar yr un pryd, mae’r DU wedi cadarnhau ei bod wedi archebu 200 miliwn o frechlynnau ar gyfer poblogaeth o 67 miliwn - 89% ohonynt eisoes wedi derbyn o leiaf un pigiad.

Wrth baratoi ar gyfer amrywiolion sy’n peri pryder yn y dyfodol, mae San Steffan wedi methu â sylweddoli mai'r defnydd gorau o frechlynnau yw ym mreichiau’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Y gwir anochel yw mai dim ond pan allwn atal y feirws hwn drwy raglen frechu fyd-eang y daw ein rhyddid.