AS y Blaid yn galw ar y Canghellor i roi’r gorau i ‘obsesiwn â GDP’ a rhoi i Gymru yr arfau i wrthweithio newid hinsawdd

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, heddiw (2 Chwefror 2021) wedi annog Llywodraeth y DG i droi cefn ar ei “obsesiwn â GDP fel ffon fesur llwyddiant” a rhoi i Gymru “arfau hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd”, yng ngoleuni cyhoeddi adolygiad newydd ar Economeg  Bioamrywiaeth.

Cafodd Adolygiad Dasgupta, a gyhoeddir heddiw, ei gomisiynu gan y Trysorlys ac fe’i cefnogwyd gan Banel Cynghori yn cynnwys aelodau o feysydd polisi cyhoeddus, gwyddoniaeth, economeg, cyllid a busnes. Dywedodd AS Plaid Cymru fod cyhoeddi’r adolygiad yn arwydd o “newid arwyddocaol sydd i’w groesawu mewn meddylfryd economaidd”.

Fodd bynnag, dywedodd Ben Lake AS fod yn rhaid i’r adolygiad arwain at newidiadau sylweddol ym mholisïau economaidd Llywodraeth y DG cyn y Gyllideb ar 3 Mawrth 2021. Beirniadodd y ffaith fod y Trysorlys yn parhau i ddefnyddio Cynnyrch Gros Domestig (GDP) fel ffon fesur llwyddiant, dull o fesur sy’n “llwyr anwybyddu ecsploetio adnoddau’r blaned mewn modd anghynaladwy”.

Yr oedd hefyd yn beirniadu Deddf y Farchnad Fewnol 2020 Llywodraeth y DG am ei bod yn amddifadu Cymru o bwerau i weithredu’n effeithiol ar fater yr hinsawdd. Cyfeiriodd at gymalau dim-gwahaniaethu’r Ddeddf, sydd yn gyfreithiol yn gwahardd Cymru rhag gweithredu i gyfyngu ar y defnydd o blastig untro. Dywedodd Mr Lake bod yn rhaid “ymdrin â hyn fel mater o frys”.

Wrth ymateb i gyhoeddi Adolygiad Dasgupta, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:

“Mae cyhoeddi Adolygiad Dasgupta yn arwydd o newid arwyddocaol mewn meddylfryd economaidd sydd i’w groesawu, gan ei fod yn nodi’r angen dybryd am i natur gael ei osod wrth graidd ein hadferiad economaidd. Mae’n hanfodol fod y Trysorlys yn ystyried ei argymhellion cyn y Gyllideb ar 3 Mawrth.

“Mae effaith newid hinsawdd yn cael ei deimlo’n gynyddol gan bobl ledled y byd, ac eto, y mae’r gwledydd honedig ddatblygedig yn parhau â’u hobsesiwn â GDP fel ffon fesur llwyddiant a thwf, sydd yn llwyr anwybyddu’r ecsploetio anghynaladwy ar adnoddau’r blaned a ddaw yn sgîl y fath obsesiwn.

“Gwnaed ymdrech yng Nghymru i dorri i ffwrdd oddi wrth y wedd gul a dinistriol hon o gynnydd gyda’r egwyddorion a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac felly yr oedd yn siomedig gweld Llywodraeth y DG yn ddiweddar yn amddifadu Cymru o’r arfau hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ar ffurf Deddf y Farchnad Fewnol 2020. Mae’r Ddeddf yn gyfreithiol yn gwahardd Cymru rhag gweithredu i gyfyngu ar y defnydd o blastig untro. Rhaid unioni hynny rhag blaen.

“Dengys Dasgupta sut y gall yr economi weithio er lles ein hamgylchedd, yn hytrach na gweithio yn ei erbyn. Y Gyllideb yw cyfle euraid y Canghellor i roi hynny ar waith.”

Diwedd.