Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i “weithredu” a darparu cefnogaeth uniongyrchol i amddiffyn swyddi sector ceir Cymru
Beirniadodd Liz Saville Roberts lywodraethau’r gorffennol am adael bywoliaeth pobl Cymru yn agored i rymoedd y farchnad fyd-eang
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, amlygu sut y bydd tariffau Trump o 25% ar beiriannau ac offer trafnidiaeth yn bygwth sector ceir Cymru.
Mae'r sector modurol yn cyflogi 30,000 o bobl yng Nghymru.
Dim ond wythnos diwethaf, fe wnaeth Ms Saville Roberts annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin economaidd er mwyn cael gwared ar rwystrau masnachu rhwng y DU ag Ewrop er mwyn amddiffyn economi Cymru yn erbyn tariffau Trump.
Beirniadodd Liz Saville Roberts AS lywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol am fethu ag amddiffyn bywoliaethau Cymreig yn y gorffennol, a gafodd eu chwalu gan rymoedd y farchnad fyd-eang.
Honnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Heidi Alexander AS y byddai’r Llywodraeth yn rhoi “sicrwydd a chefnogaeth” i wneuthurwyr ceir ym Mhrydain wrth iddynt wynebu heriau economaidd rhygnwladol. Fodd bynnag, mae Fforwm Modurol Cymru wedi galw am gymorth uniongyrchol i’r sector ceir, gan honni nad yw ymrwymiadau Llywodraeth y DU yn ddigon.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
“Prin iawn wnaeth Llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol pan gafodd bywoliaethau Cymru eu chwalu gan rymoedd y farchnad ryngwladol mewn gweithfeydd fel yr un Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r gwaith dur ym Mhort Talbot.
Mae sector ceir Cymru bellach yn wynebu tariffau o 25%, diolch i’r Arlywydd Trump, gan fygwth diwydiant sy’n cyflogi 30,000 o bobl.
Mae Fforwm Moduron Cymru wedi dweud nad yw ymrwymiadau’r Llywodraeth yn ddigon. Maen nhw'n galw am gefnogaeth uniongyrchol.
A yw ei Llywodraeth yn barod i weithredu a darparu’r cymorth hwnnw?
Ymatebodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Heidi Alexander:
“Mae gennym ni gronfa trawsnewid modurol gwerth £2 biliwn.
“Rydyn ni’n buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn mathau eraill o gymorth hefyd.
“Rwy’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, a byddwn yn troi pob carreg yn ein hymdrechion i amddiffyn y diwydiant gweithgynhyrchu ceir a sicrhau bod y swyddi medrus iawn hynny yno mewn cymunedau yng Nghymru ac ar draws gweddill y wlad.”