Neges Nadolig gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn flwyddyn a hanner. Blwyddyn anodd. Blwyddyn unig. Blwyddyn o aberth. O golled a galaru.

Mae’r flwyddyn hon hefyd wedi dangos yn glir yr anghyfiawnderau sy’n gorwedd wrth galon ein cymdeithas – gyda rhai yn cael eu taro yn fwy caled na’u gilydd. Mae’r pandemig wedi gweld miloedd o deuluoedd yn cwympo yn ddyfnach i ddyfnderoedd tlodi. Yn siwr i chi, mae’r angen am fanciau bwyd wedi cynnyddu yn frawchys dros y deng mlynedd diwethaf – gyda mwy ohonyn nhw nawr yn bodoli ar draws y Deyrnas Unedig na sydd ‘na o fwytai McDonalds.

Yng Nghymru yn unig, mae 180,000 o blant yn byw mewn tlodi. Rhwng Mawrth a Hydref eleni, bu cynnydd o 75% yn y niferoedd o bobl yng Nghymru sydd yn derbyn Credyd Cynhwysol. Mae methiant llwyr i fynd i’r afael a thlodi yn boenus o glir.

Ry’ ni yn 2020 hefyd wedi dysgu gwir ystyr gweithwyr allweddol. Ar stepen ein drws, fe gynigon ni gymeradwyaeth i’n hathrawon, ein nyrsys, ein gofalwyr, ein gweithwyr cyngor. Diolch i’w haberth nhw mae ganddom ni nawr oleuni ar ddiwedd y twnnel.

Ond mae’n rhaid i ni yn 2021 droi y geiriau cynnes yn weithredoedd go iawn.

Ni nawr yn mynd mewn i gyfnod fydde, mewn amseroedd cyffredin, yn un i’w dreulio da’n anwyliaid. Ein teuluoedd. Ein ffrindie. Ond ni fydd hynny yn bosibl i nifer fawr ohonom eleni. A thra bod 2020 wedi bod yn flwyddyn o gyfyngiadau a thywyllwch, dewch i ni droi 2021 yn flwyddyn o oleuni a gobaith.
Yn flwyddyn ble ry’ ni, ‘da’n gilydd, yn cadw at ein haddewid i ofalu am bawb yn ein cymdeithas – o’r crud i’r bedd.  Yn flwyddyn lle ry’ ni’n penderfynu i wneud Cymru yn wlad gyfartal ble mae pawb yn gydradd.

Ni alla i gofio blwyddyn fel hon ond gobaith fo’n meistr a ‘da’n gilydd, flwyddyn nesaf, fe godwn ni eto i ail-adeiladu ac i greu dyfodol tecach i bawb.

Nadolig Llawen a diogel i bob un ohonoch.