5 rheswm pam y dylai addysg newid yn yr hinsawdd fod yn rhan o'r cwricwlwm newydd
1. Mae Cymru wedi ymrwymo'n gyfreithiol i weithredu er budd cenedlaethau'r dyfodol gyda’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly trwy wneud addysg newid yn yr hinsawdd yn elfen orfodol, byddai'r Bil Cwricwlwm Newydd yn gweithredu yn unol â'r rhagofyniad hwn ar gyfer deddfau newydd.
2. Bydd dysgu disgyblion yn yr ysgol am newid yn yr hinsawdd yn helpu i hysbysu'r cyhoedd yn ehangach trwy eu teuluoedd. Mae cyfran sylweddol o'r cyhoedd ddim yn ymwybodol o ddifrifoldeb newid yn yr hinsawdd, ac felly mae unrhyw fodd o'u hysbysu yn fuddiol wrth gasglu cefnogaeth i bolisïau gwyrdd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
3. Mae’r Bil Cwricwlwm Newydd yn nodi mai un o’i nodau yw i ddisgyblion Cymru ddod yn ‘ddinasyddion gwybodus y byd’. Ni fydd hyn yn wir os na chânt eu dysgu am newid yn yr hinsawdd a'r cyd-destun helaeth o'i gwmpas.
4. Wrth drafod cyd-destun - mae ymgyrchwyr wedi galw ar y llywodraeth i wneud sawl agwedd heblaw addysg newid hinsawdd yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Gellir ymgorffori addysg hinsawdd mewn llawer o'r rhain, gan ei gwneud hi'n bosibl cynnwys yr holl elfennau hanfodol hyn yn y cwricwlwm. Er enghraifft, gellir ymgorffori effeithiau anghymesur newid yn yr hinsawdd ar grwpiau lleiafrifol yn dysgu gorfodol Hanes Pobl Dduon a Phobl o Liw.
5. Wrth i waith tuag at dargedau niwtraliaeth garbon fyd-eang mynd yn ei flaen, bydd newidiadau sylfaenol i'n ffordd o fyw ac i fyd gwaith. Mae'n debygol iawn y bydd galw mawr am sgiliau sy'n gysylltiedig â niwtraliaeth garbon ac ynni gwyrdd yn y blynyddoedd i ddod, ac felly bydd addysg hinsawdd yn ofyniad hanfodol i bawb - ni ddylai plant heddiw orfod dal i fyny.
Gan ddiolch i Teach the Future am y geiriau.