Mae AS Plaid Cymru Hywel Williams wedi lleisio ei bryder fod Llywodraeth y DG wedi penderfynu cau'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol gan ddweud na ddylai dyletswyddau dyngarol gael eu drysu gyda’n hunan-les cenedlaethol.

Cadarnhaodd Boris Johnson mewn datganiad i Dŷ’r Cyffredin ei fod am gau'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol ac am agor adran newydd sy’n cyfuno cyfrifoldebau'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol.

Dywedodd AS Arfon nad yw hi’n gwneud synnwyr i gau’r adran sydd yn ffocysu ar ddatblygu rhyngwladol tra'n siarad am ‘Brydain fyd-eang’ a'i fod yn dangos tueddiadau ynysig y Torïaid.

Dywedodd Hywel Williams AS:

"Rydw i’n siomedig iawn gyda'r penderfyniad sydd yn gwneud anghymwynas â llawer o’r gwaith gwych sydd wedi ei gyflawni gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol. Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr i siarad am ‘Prydain fyd-eang’ wrth gau’r adran sydd yn ffocysu ar ddatblygu rhyngwladol.

"Dydy hi ddim hyd yn oed yn glir y bydd y gyllideb ar gyfer datblygu rhyngwladol yn cael ei amddiffyn. Yr unig beth sydd wedi ei gyflawni gan ddatganiad heddiw yw atgyfnerthu tueddiadau ynysig, beryglus y Torïaid.

"Mewn cyfnod o awdurdodyddiaeth gynyddol ac o densiynau geowleidyddiaeth, mae’r DG wedi rhoi’r gorau i unrhyw uchelgais o arwain drwy esiampl. Mae wedi anghofio bod gwir gryfder y DG yn cael ei fesur yn rhyngwladol nid trwy ei arfau niwclear ond trwy sut mae’n cyfrannu at wneud ein byd yn lle gwell saffach a mwy teg.

"Rhaid i ni beidio a drysu ein dyletswyddau dyngarol gyda’n hunan-les cenedlaethol."