Mae'n rhaid i San Steffan dalu'n llawn i wneud domenni glo yn ddiogel neu peryglu diogelwch cymunedau Cymru
Nid yw deddfwriaeth ar ben ei hun yn ddigonol – Delyth Jewell AS
Mae Plaid Cymru wedi galw ar San Steffan i dalu'r gost lawn o £600m i adfer tomenni glo dros y degawd nesaf er mwyn amddiffyn cymunedau ac atal trychinebau yn y dyfodol.
Mae'r Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Cymru) a gyhoeddwyd heddiw (9 Rhagfyr 2024) wedi'i ddisgrifio fel "cam pwysig" tuag at fynd i'r afael â pheryglon diogelwch tomenni glo - ond mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen arian i hefyd.
Methodd Llywodraeth y DU ag ymrwymo i ariannu diogeli tomenni glo yn llawn yng Nghyllideb yr Hydref, gan gyhoeddi £25m yn unig serch fod hyn yn fater cyn datganoli.
Yn dilyn y tirlithriad mawr uwchben Tylorstown yn Rhondda Fach yn 2020 a'r tirlithriad diweddar yng Nghwmtyleri yn dilyn Storm Bert, mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen cyllid hirdymor i atal y risg o dirlithriadau yn y dyfodol oherwydd tywydd cynyddol eithafol ac ansefydlogrwydd tomenni.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd, Delyth Jewell AS:
"Mae'r Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Cymru) yn gam pwysig tuag at fynd i'r afael â'r risg diogelwch brys a achosir gan domenni glo segur Cymru.
"Ond dyw deddfwriaeth yn unig ddim yn ddigon. Gyda channoedd o domenni risg uchel a miloedd yn fwy ledled y wlad, ni allwn orbwysleisio’r brys sydd angen i sicrhau'r £600m llawn o San Steffan i adfer tomenni glo yng Nghymru ac atal trychinebau yn y dyfodol. O ystyried y tywydd cynyddol eithafol yr ydym yn ei brofi, mae risg uwch o dirlithriadau ac ansefydlogrwydd tomen. Nid yw'r £25m y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano i glirio tomenni glo am fynd yn bell iawn.
"Mae tomenni glo yn ein hatgoffa’n ddyddiol o waddol mwyngloddio glo ar ein cymunedau a’r hanes o gael ein hecsbloetio. Eto i gyd, mae San Steffan wedi methu â chymryd cyfrifoldeb am yr anghyfiawnder hanesyddol hwn.
"Mae Plaid Cymru yn glir: mae pobl ledled Cymru yn haeddu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dalu'n llawn i wneud pob tomen lo yng Nghymru yn ddiogel - byddai unrhyw beth llai yn frad i'r cymunedau wnaeth pweru'r chwyldro diwydiannol."