A yw'r syniad o bleidleisio mewn etholiadau cyngor yn eich llenwi â chyffro? Na? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – peidiwch â phoeni!

 

Ond nid yw pleidleisio yn yr etholiadau Cyngor erioed wedi bod yn bwysicach nag yw hi ar hyn o bryd, ac fe fydd y canlyniad yn sicrhau bod bywyd yn decach yn eich cymuned.

 

Dyma bum rheswm penodol dros gofrestru a phleidleisio:

 

1. Mae cynghorau'n rheoli bron a bod pob dim.

O gynnal a chadw strydoedd, casglu sbwriel, cyfleusterau cymunedol a gofal cymdeithasol i dai a chynllunio, gwasanaethau i'r digartref, ysgolion, trafnidiaeth, parciau lleol a llyfrgelloedd. Mae gan ein cynghorau lleol law yn llawer o'r gwasanaethau a ddefnyddiwn bob dydd. Mae gan gynghorwyr yr ydych chi yn eu hethol llais yn y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu rhedeg a sut olwg sydd ar eich ardal.

 

2. Rydych chi’n talu treth y Cyngor bob mis – mae gennych chi hawl i ddweud sut dylai cael ei wario

Mae gan Gynghorau Cymuned a Sir swm mawr o arian i'w wario, maent hefyd yn penderfynu faint o dreth gyngor rydych chi'n ei dalu. Mae ethol rhywun sy'n eich cynrychioli chi yn gwneud i'ch llais gael ei glywed pan gaiff yr arian ei wario.

 

3. Mae angen mwy o amrywiaeth arnom yn ein cynghorau

Yn 2017, roedd tua 70% o'r ymgeiswyr yn ddynion, roedd 50% dros 60 oed a 98.2% yn wyn.

Nid yw hyn yn cynrychioli'r boblogaeth yng Nghymru gyfan, felly mae sefyll ac ethol ymgeiswyr amrywiol yn helpu i gynrychioli pawb yn ein cymdeithas.

 

4. Mae'r nifer sy'n pleidleisio fel arfer yn isel – gallwch newid hyn!

Gyda'r nifer mor isel o bobl yn pleidleisio, gallai pobl gael eu hethol heb fandad mawr o gwbl. Po fwyaf o bobl sy'n pleidleisio, y mwyaf cynrychioliadol fydd ein cynghorau.

 

5. Pleidleisiwch mewn etholiad Cyngor ac rydych yn fwy tebygol o bleidleisio mewn etholiadau eraill

Mae hi mor bwysig i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd ar bob lefel. Mae pleidleisio mewn etholiad lleol yn cynyddu ein gwybodaeth am ba wleidydd sy’n gwneud penderfyniad ar beth, mae'n cynyddu cyfranogiad ym mhob etholiad ac yn cynyddu atebolrwydd ein haelodau etholedig.

 

A ydym wedi’ch perswadio?

Os felly - cymerwch ran, cofrestrwch i bleidleisio yma cyn diwedd y dydd 14 Ebrill a defnyddiwch eich pleidlais ar y 5ed o Fai!