Mae Prif Chwip Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi croesawu’r ffaith fod Tŷ’r Cyffredin yn dychwelyd, ond wedi lleisio pryderon fod perygl i’r fformat ‘hybrid’ fel y’i gelwir roi’r ASau hynny nad ydynt yn byw yn agos i Lundain dan anfantais ddybryd.

Bydd Tŷ’r Cyffredin yn dychwelyd heddiw (21 Ebrill) i gymeradwyo newid yn eu rheolau gweithredu fydd yn gweld holi gweinidogion yn digwydd yn ddigidol, gyda’r sesiwn gyntaf trwy gyswllt fideo yn digwydd ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Edwards, fu’n rhan o’r trafodaethau trawsbleidiol ar ffordd newydd Tŷ’r Cyffredin o weithio, ei bod yn hanfodol i ASau ddychwelyd er mwyn dal Llywodraeth y DG i gyfrif.

Er hynny, mae wedi lleisio pryderon y bydd y ffaith mai rhan yn unig o fusnes y Tŷ a gynhelir yn ddigidol yn golygu y gorfodir ASau nad ydynt yn byw yn Llundain a’r cyffiniau i gymryd rhan mewn rhai sesiynau y gellid bod wedi eu cynnal trwy gyswllt fideo.

Fel y saif pethau, bydd dwy awr gyntaf pob diwrnod yn ddigidol, gyda’r cwestiynau adrannol cylchol, gan gynnwys Cwestiynau’r Prif Weinidog, yn cael eu cynnal, ac yna unrhyw Ddatganiadau Gweinidogol a Chwestiynau Brys. Fodd bynnag, parheir i gynnal unrhyw fusnes pellach yn bersonol, yn siambr Tŷ’r Cyffredin.

Tynnodd AS y Blaid sylw at y Senedd fel enghraifft o’r senedd gyntaf yn y DG i gynnal cyfarfod hollol ddigidol.

Meddai Jonathan Edwards AS:

“Mae galw Tŷ’r Cyffredin yn ôl yn gam pwysig o ran sicrhau y clywir pryderon ein hetholwyr, a bod Llywodraeth y DG yn cael ei dal i gyfrif.

“Mae’n siomedig, fodd bynnag, y parheir i gynnal rhai o’r trafodaethau yn bersonol. Nid yn unig y mae hyn yn ddiangen, ond fe all gau rhai pobl allan, gan y gorfodir ASau nad ydynt yn byw yn Llundain a’r cyffiniau i gyfrannu i rai dadleuon.

“Gwyddom y dylem fod yn teithio llai, er mwyn ein diogelwch ein hunain ac eraill. Nid yw’n beth synhwyrol creu system newydd i Senedd y DG fydd yn gorfodi pobl i deithio.

“Nid dyma’r math o esiampl y dylai ASau fod yn ei roi.

“Wythnosau’n ôl, profodd y Senedd fod senedd hollol ddigidol yn bosib. Gallwn weithio o gartref, a dyna y dylem wneud.”