Mae Plaid Cymru wedi galw am sefydlu Pwyllgor Dethol trawsbleidiol Coronafeirws i graffu ar ymateb Llywodraeth y DG i’r argyfwng.

Dywedodd Prif Chwip y blaid, Jonathan Edwards AS y gallai Pwyllgor Coronafeirws “ganiatáu i ni ddysgu gwersi’n sydyn i osgoi methiannau yn y dyfodol”.

Gwnaeth y blaid yr alwad yn eu cyflwyniad i Bwyllgor Trefniadaeth Tŷ’r Cyffredin sydd ar hyn o bryd yn adolygu gweithdrefnau Senedd Prydain yn dilyn cyflwyno trafodion ‘hybrid’ sydd wedi caniatáu i Aelodau gyfrannu trwy gyswllt fideo.

Gan grybwyll cynsail y Pwyllgor Dethol Brexit yn ystod Senedd 2017-19, oedd ag aelodaeth o 21 AS gydag o leiaf un sedd i bob plaid a gynrychiolwyd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn Seland Newydd, lle maent wedi dechrau llacio’r cloi i lawr, gweithredodd y senedd yn sydyn trwy sefydlu Pwyllgor Ymateb i’r Epidemig i graffu mewn modd deallus a chynhwysfawr ar ymateb y Llywodraeth i’r Coronafeirws bob cam o’r ffordd. Arweinydd yr wrthblaid yw cadeirydd y Pwyllgor ac y mae arno o leiaf un cynrychiolydd o bob plaid.

Mae Pwyllgorau Dethol yn un o hanfodion canolog craffu Seneddol ac y mae ganddynt ran bwysig trwy gynnal ymchwiliadau a chyfweld gweinidogion ac uwch-weision sifil. Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau Dethol Tŷ’r Cyffredin yn cyfateb i adrannau’r llywodraeth, ond y mae nifer fechan o Bwyllgorau sy’n ymdrin â materion sy’n torri ar draws adrannau, megis y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.

Meddai Jonathan Edwards AS Plaid Cymru:

“Mae gan Dŷ’r Cyffredin ran bwysig wrth ddal Gweinidogion i gyfrif, ond y mae Llywodraeth San Steffan yn dal i geisio osgoi craffu. Yn gymaint felly fel y bu’n rhaid i’r Llefarydd geryddu’r Prif Weinidog yr wythnos hon pan ddaeth yn amlwg y byddai’n cyhoeddi mesurau newydd mewn cynhadledd i’r wasg yn hytrach nac i’r Senedd fel y dylai.

“Byddai Pwyllgor Coronafeirws yn arwain at graffu mwy effeithiol o lawer, nid er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol, ond er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau gwell.

“Fel Pwyllgor Dethol Brexit yn y Senedd flaenorol, dylai pob plaid yn y Senedd gael eu cynrychioli fel y gallant holi cwestiynau a lleisio pryderon.

“Does gan neb fonopoli ar syniadau da, a rhaid i Lywodraeth Prydain fod yn agored i graffu a bod yn barod i gydnabod pan fydd wedi cymryd cam gwag.

“Gwaetha’r modd, mae’n edrych fel petaem am orfod byw gyda’r clefyd hwn am beth amser eto. Byddai Pwyllgor Dethol Coronafeirws yn gadael i ni ddysgu gwersi’n gyflym i osgoi methiannau yn y dyfodol.”