‘Cawsom addewid y byddai pethau’n wahanol o dan Lafur, ond dyw hynny heb ddod i'r amlwg’ - Liz Saville Roberts AS

Heddiw (dydd Llun 1 Medi) mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur y DU i roi nifer o fesurau ar waith fel rhan o gyllideb Hydref 2025 i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Wrth i ASau ddychwelyd i San Steffan heddiw ar ôl gwyliau’r haf, mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, yn dweud, er bod yr argyfwng costau byw wedi dechrau o dan y Torïaid, “nad yw pobl mewn sefyllfa well o dan Lafur heddiw chwaith.”

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater, mae Plaid Cymru yn nodi y dylai Llywodraeth y DU:

  • Cefnogi aelwydydd gyda chost ynni a thai
  • Hybu incwm a sicrhau bod gan bobl y pethau sylfaenol
  • Trethu cyfoeth ac elw eithafol yn deg

 

Ynni a thai:

Mae 25% o gartrefi yng Nghymru (340,000) mewn tlodi tanwydd. Mae cefnogaeth fel y Gostyngaid Cartrefi Cynnes ond wedi codi o £10, tra bod biliau ynni wedi cynyddu £500. Mae Plaid Cymru yn galw am grantiau cymorth ynni tebyg i'r Cynllun Cymorth Biliau Ynni (2022/23) a chymorth wedi'i dargedu ar gyfer y gaeaf.

Mae tua 70,000 o gartrefi yng Nghymru yn wynebu bwlch rhwng rhent a nawdd cymdeithasol oherwydd y dreth ystafell wely a chyfraddau Lwfans Tai Lleol sydd wedi dyddio. Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i ddiddymu'r dreth ystafell wely ac uwchraddio'r lwfans i o leiaf y 30fed ganradd o renti yng Nghymru.

 

Cymorth incwm:

Byddai codi'r lwfans personol a dadrewi'r trothwy treth incwm sylfaenol o fudd i'r 50% isaf o drethdalwyr sy'n ennill llai na £28,400. Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am Warant Hanfodion i sicrhau y gall y rhai ar yr incwm isaf fforddio bwyd, gwresogi eu cartrefi, a hanfodion eraill.

 

Trethiant tecach:

Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu cynnydd Llafur yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, sy'n effeithio ar recriwtio yn y sector cyhoeddus, busnesau bach, a chartrefi gofal, ac sy'n cael ei drosglwyddo'n rhannol i weithwyr a chwsmeriaid. Mae'r blaid yn annog y Llywdoraeth i wrthdroi'r polisi hwn a gosod mesurau refeniw amgen yn ei le.

Mae Plaid Cymru yn cynnig treth gyfoeth flynyddol o 2% ar asedau dros £10 miliwn (£24bn o refeniw posibl) a chydraddoli Treth Enillion Cyfalaf â Threth Incwm (£12bn o refeniw posibl) i ariannu gwasanaethau cyhoeddus a lleihau anghydraddoldeb cyfoeth.

 

 

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Er bod y gostyngiad sylweddol mewn safonau byw o ganlyniad i'r cynnydd ym mhris nwyddau a gwasanaethau hanfodol wedi dechrau o dan y Torïaid, nid yw pobl mewn gwell sefyllfa o dan Lafur heddiw chwaith. Mae'r cynnydd mewn costau byw yn parhau i daro pobl ifanc, teuluoedd a phensiynwyr ar draws pob rhan o'r DU.

“Ond tra bod pobl gyffredin yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd a thalu am y pethau mwyaf sylfaenol fel bwyd a thai, mae corfforaethau mawr a'r cyfoethog iawn yn cronni elw syfrdanol. Fe wnaeth perchnogion rhwydweithiau ynni bocedi £3.9 biliwn mewn elw o filiau ynni uchel - arian a ddaeth yn uniongyrchol oddi ar gefn pobl gyffredin. A gyda chynnydd pellach mewn prisiau ynni i'w ddisgwyl y gaeaf hwn, dim ond gwaethygu fydd y pwysau ar deuluoedd a phensiynwyr, tra bod y rhai mwyaf cyfoethog yn parhau i elwa.

“Cawsom addewid y byddai pethau’n wahanol o dan Lafur, ond hyd yn hyn, nid yw’r honiad o ‘newid’ wedi dod i’r amlwg. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno polisïau ymarferol i Lywodraeth y DU cyn Cyllideb yr Hydref eleni a fyddai’n mynd i’r afael o ddifrif â chostau byw cynyddol. Byddai’r mesurau hyn yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i aelwydydd yn ein cymunedau yn ogystal â mynd i’r afael â’r anghyfartaledd cyfoeth cynyddol yn y DU. Mae’n bryd i’r rhai sydd â’r ysgwyddau lletaf dalu eu cyfran deg, ac i gymunedau ledled y DU gael y diogelwch a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu.”