Plaid Cymru yn galw am weithredu ar unwaith i helpu pobl Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio ei phwerau i weithredu ar yr argyfwng costau byw.

Cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 20 Medi), mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, wedi galw ar Mark Drakeford a’i Lywodraeth Lafur i ddefnyddio ei phwerau datganoledig i haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiaubws; rhewi rhenti, ac ymestyn prydau ysgol am ddim. i ddisgyblion uwchradd – galwad y mae arweinydd Plaid Cymru wedi’i wneud droeon.

Mae Mr Price wedi bod yn glir erioed mai “cam un” yw prydau am ddim ar gyfer ysgolion cynradd ac fe amlinellodd ei weledigaeth o ymestyn y polisi hwn ledled Cymru yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru gynharach eleni.

Ym mis Awst 2022, awgrymwyd y gallai’r cap ar brisiau ynni godi i £4,266 o fis Ionawr 2023. Mae hyn yn gynnydd o £2,866 neu 200% ers gaeaf 2021.

Yn yr Alban, cyhoeddodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon becyn o fesurau i helpu i amddiffyn pobl rhag y gwaethaf o’r argyfwng cost-byw gan gynnwys rhewi rhenti i denantiaid cymdeithasol a phreifat tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Bydd yr argyfwng costau byw yn argyfwng ar raddfa fwy dinistriol nag y gall y rhan fwyaf ohonom byth gofio. Bydd pobl yn colli eu bywoliaeth os nad eu bywydau.

“Dyna pam ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn defnyddio pob darn o rym sydd ar gael iddynt i liniaru effaith biliau ynni cynyddol a safonau byw sy’n gostwng.

“Dylai hyn gynnwys gwaharddiad ar droi allan (evictions) ar unwaith, haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws tan o leiaf Mawrth 2023, ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd, a rhewi rhenti y mae Llafur yn yr Alban wedi bod yn ymgyrchu amdano.

“Bydd methu â gwneud hynny yn cynrychioli dirywiad dyletswydd gan Lafur yng Nghymru i wneud y mwyaf o fanteision datganoli. Mae neges Plaid Cymru i Lywodraeth Lafur Cymru yn glir – mae gennych chi’r pwerau i weithredu ar yr argyfwng costau byw, defnyddiwch nhw.”