Y ffaith fod San Steffan yn gwrthod cyflwyno ‘system les barchus’ yn gwneud datganoli yn fwy o fater brys nag erioed, medd Hywel Williams AS  

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, Hywel Williams AS, heddiw (Llun 13 Mehefin) wedi galw ar Lywodraeth y DU i adfer y codiad £20 i Gredyd Cynhwysol o fis Gorffennaf ymlaen er mwyn gwarchod aelwydydd bregus rhag yr argyfwng costau byw. 

Dywedodd Mr Williams fod “gwrthodiad penstiff” San Steffan i adfer y codiad £20 i Gredyd Cynhwysol yn “cosbi pobl mewn tlodi”. Rhoddwyd y gorau i’r codiad ym mis Hydref 2021 ac y mae’r Gweinidogion dro ar ôl tro wedi gwrthod galwadau i’w adfer er bod yr argyfwng costau byw yn gwaethygu.  

Dywedodd Mr Williams, o ystyried yr “argyfwng” sy’n wynebu aelwydydd, y dylid ymestyn y codiad £20 hefyd i’r sawl sy’n derbyn budd-daliadau gwaddol, ac y dylid uwchraddio pob budd-dal hefyd yn unol â chwyddiant. 

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar y Llywodraeth i roi terfyn ar arian sy’n cael ei dynnu’n awtomatig o fudd-daliadau. Mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi amcangyfrif fod rhyw 92,000 o aelwydydd yng Nghymru sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn derbyn ar gyfartaledd £60 yn llai bob mis na’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, oherwydd symiau sy’n cael eu tynnu’n awtomatig o’u taliad CC. Amcangyfrifir bod y symiau hyn yn effeithio ar ryw 106,000 o blant yng Nghymru. 

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnig cyfran fechan yn unig o’r budd-daliadau diweithdra a ddarperir gan wledydd eraill Ewrop. Mae’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn darparu cyfran o enillion blaenorol gydag isafswm meincnod; mae’r gwledydd Nordig yn cynnig cymaint â 90 y cant o gyflogau blaenorol. O ran cymhariaeth, mae’r taliad unradd a gynigir gan y DG yn cyfateb i ddim ond 14 y cant o enillion wythnosol cyfartalog. 

Gan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o dlodi ymysg pedair cenedl y DG, gyda bron i 1 o bob 4 (23%) o bobl yn byw mewn tlodi. 

Dywedodd Hywel Williams AS: 

“Mae aelwydydd ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw, ac eto mae gwrthodiad penstiff San Steffan i godi lefel taliadau i’r sawl sydd ar Gredyd Cynhwysol yn cosbi mwy fyth ar bobl mewn tlodi.  

“Mae ein system les wedi ei chwalu gan un llywodraeth y DG ar ôl y llall - glas a choch - oherwydd obsesiwn ideolegol â thorri maint y wladwriaeth. Rhaid i ni o leiaf adfer egwyddor sylfaenol o’r modd y dylai’r system weithredu - y dylai cefnogaeth ariannol gadw i fyny â chostau byw. Dyna pam, yn ogystal ag adfer y codiad, fod yn rhaid i Lywodraeth y DG uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant. 

“Cyn yr hyn fydd yn hydref anhygoel o anodd i aelwydydd, dylai Llywodraeth y DG hefyd ail-ystyried eu polisi creulon o dynnu arian allan yn awtomatig. Mae rhyw 92,000 o aelwydydd ar Gredyd Cynhwysol yng Nghymru yn derbyn ar gyfartaledd £60 yn llai bob mis na’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, oherwydd tynnu’n awtomatig o’u taliad CC. Mae didyniadau hyn yn effeithio ar tua 106,000 o blant yng Nghymru. 

“Credyd Cynhwysol yw un o’r systemau lles lleiaf hael yn Ewrop. Os nad yw San Steffan yn fodlon i ddangos y lefel fwyaf sylfaenol o urddas dynol, rhaid i ni fynnu pwerau dros les fel y gallwn greu system les barchus i bobl Cymru.”