Heddiw mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi amlinellu sut y bydd miloedd o aelwydydd Cymru yn gweld toriad yn eu treth gyngor o dan gynlluniau’r blaid i ddiwygio’r system “annheg a hen ffasiwn” gyfredol.

Tynnodd Adam Price sylw at y ffaith bod gwerthoedd eiddo mewn gwahanol rannau o'r wlad wedi newid dros y 18 mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf yn 2003, gan nodi enghraifft Blaenau Gwent lle mae wedi cynyddu fwy na dwywaith cymaint ag yn Wrecsam.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y byddai tua 20% o aelwydydd yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm yn gweld eu bil treth gyngor yn gostwng oddeutu £ 200.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

“Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn disgrifio model treth gyngor cyfredol Cymru fel un ‘wedi dyddio’. Nid yw'n syndod ond mae’n gwbl annerbyniol bod teuluoedd Cymru wedi cael eu taro gan gyfanswm o £13m o ôl-ddyledion treth gyngor yn ystod y pandemig.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu ar unwaith i ddiwygio’r system hynod annheg hon a helpu cartrefi i wneud i’w cyllideb wythnosol fynd ymhellach.

“Mae gwerth eiddo mewn gwahanol rannau o Gymru wedi amrywio’n sylweddol dros y 18 mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf yn 2003. Er enghraifft, mae wedi cynyddu ddwywaith cymaint yn Blaenau Gwent nag yn Wrecsam.

“Fel y mae’r IFS hefyd yn nodi, byddai gwneud treth y cyngor yn gymesur â’r gwerthoedd cyfoes yn arwain at filiau cyfartalog yn gostwng mwy na £160 ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.

“Bydd y polisi blaengar hwn yn rhan o raglen lywodraethol ehangach Plaid Cymru sydd â thegwch i deuluoedd yn ganolog iddo.”