Mae cynghorau "mewn sefyllfa amhosib", wedi eu gorfodi i dorri gwasanaethau a chynyddu treth Cyngor o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Lafur Cymru, rhybuddir arweinwyr Cyngor Plaid Cymru.

Wrth ymateb i'r gyllideb derfynol, dywedodd arweinwyr cynghorau Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ynys Môn a Cheredigion na fydd "mân newidiadau munud olaf" yn gwneud fawr ddim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau sydd eisoes yn fregus.

Ar ôl dysgu am gynlluniau terfynol y llywodraeth Lafur, dywedodd Darren Price, Nia Jeffreys, Gary Pritchard a Bryan Davies:

"Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser y byddai cynghorau yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib, yn cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau, a chynyddu treth y Cyngor. "

"Yn anffodus, mae hynny'n parhau'n wir ac nid yw'r mân newidiadau munud olaf hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru yn gwneud fawr ddim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau sydd eisoes yn fregus.

"Rhybuddiodd arweinwyr cyngor Plaid Cymru ym mis Rhagfyr am y rhagolygon ariannol peryglus ar gyfer gwasanaethau lleol.

"Gwnaethom rybuddio Gweinidogion bod y cynnydd cyfartalog o 4.3% i gynghorau a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf yn amlwg yn methu â chwrdd â'r pwysau ar gyllidebau cynghorau."

"Er bod £30m ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol, mae'r ffaith nad yw wedi'i gynnwys yn y llinell sylfaen yn golygu fod dim cyfle i gynghorau liniaru'r cynnydd sydd ar y gweill yn Nhreth Cyngor.

"Mae'r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU llynedd hefyd yn achos pryder enfawr i gynghorau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif bod y gost i awdurdodau lleol yn £109m, ac ni fydd y gost hon yn cael ei dalu'n llawn. Mae hynny'n cynrychioli pwysau cost arall eto i gyllidebau sydd eisoes wedi'u gwasgu gan gynghorau.

"Os yw 'partneriaeth mewn pŵer' Llywodraeth Lafur Cymru  gyda'u cyfeillion yn San Steffan yn golygu unrhyw beth, yna bydd Datganiad y Gwanwyn ddiwedd mis Mawrth yn rhoi'r hwb ariannol i Gymru mae gwir angen i ni wneud iawn am ddegawdau o gyllid annheg."