Yr wythnos hon, cyflwynodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, Fesur Stad y Goron (Datganoli i Gymru) i Dŷ’r Cyffredin, fyddai’n caniatáu i Gymru elwa ar fanteision ariannol gwyrdd yn ôl yr AS.

Yn y flwyddyn i Fawrth 31 2021, mae gwerth asedau morol Stad y Goron yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi mwy na dyblu, gan godi o £2 biliwn i £4.1 biliwn. Sbardunwyd hyn yn bennaf trwy ocsiwn o brydlesi gwely’r môr am ddatblygiadau gwynt y môr ym mis Chwefror 2021 a allai godi £879 miliwn y flwyddyn, neu £8.8 biliwn dros y deng mlynedd nesaf i’r Trysorlys.

Yr oedd ocsiwn mis Chwefror yn cynnwys ‘Ardal Fidio 4’ sef gogledd Cymru a Môr Iwerddon, sy’n lledu dros 8,500 km2. Mae Stad y Goron yn talu ei helw i’r Trysorlys, sydd fel arfer yn talu 25 y cant o hyn i Balas Buckingham ar ffurf ‘grant sofran’.

Dywedodd Ms Saville Roberts fod y ffigyrau newydd yn datgelu “gwiriondeb y setliad datganoli cyfredol”, lle gall Trysorlys y DG a’r Teulu Brenhinol elwa o adnoddau naturiol Cymru, ar waetha’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn meddu ar lawer o’r pwerau sy’n berthnasol i weinyddiaeth Stad y Goron. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfrifoldeb dros hyrwyddo ynni adnewyddol a phwerau cydsynio i brosiectau ynni (hyd at 350 megawatt).

Ers 2017, datganolwyd Stad y Goron yn yr Alban i Lywodraeth yr Alban. Mae refeniw dros ben o Stad y Goron yr Alban yn cael ei dalu i Gronfa Gyfun yr Alban sydd yn ei thro yn cyllido Llywodraeth yr Alban.

Byddai Mesur Stad y Goron (Datganoli i Gymru) yn gweld Stad y Goron yn cael ei thrin yn yr un modd yng Nghymru ag yn yr Alban, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gyrchu refeniw dros ben o Stad y Goron yng Nghymru. Dywedodd Ms Saville Roberts y byddai hyn yn ymdrin â’r “anacronistiaeth” sy’n bodoli dan y drefn bresennol.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae ffigyrau heddiw yn datgelu gwiriondeb y setliad datganoli presennol ac anghydraddoldeb perchenogaeth yn y Deyrnas Gyfunol. Does dim esboniad cyfiawn pam, wedi ugain mlynedd o ddatganoli, fod Trysorlys y DG a’r Teulu Brenhinol yn dal i elwa o adnoddau naturiol Cymru tra bod Cymru ar ei cholled.

“Mae Llywodraeth Cymru yn meddu ar lawer o’r pwerau sy’n berthnasol i weinyddu Stad y Goron, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros hyrwyddo ynni adnewyddol yn ogystal â phwerau cydsynio i brosiectau ynni hyd at 350 megawatt. Ac eto, nid oes ganddynt bwerau dros brydlesu gwely’r môr. Rhaid ymdrin â’r anacronistiaeth hwnnw.

“Dyna pam y cyflwynais yr wythnos hon Fesur i’r Senedd fyddai’n datganoli asedau tiriogaethol a chyfrifoldebau Stad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban ers 2017. Tra bod Llywodraethau’r DG a’r Alban yn manteisio ar fanteision rhuthr aur gwyrdd, mae Cymru ar ei cholled. Byddaf yn annog Aelodau o bob rhan o Dŷ’r Cyffredin i gefnogi fy Mesur.”

Diwedd.