Datganoli Ystad y Goron i Gymru ‘yn ôl ar yr agenda’
Mesur Ystad y Goron Cymru Plaid Cymru yn pasio yn Nhy'r Arglwyddi yn ddiwrthwynebiad
Heddiw (dydd Mawrth 20 Ionawr) pasiodd Mesur Ystad y Goron Cymru Plaid Cymru ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae’r Mesur, a gyflwynwyd yn y lle cyntaf gan Dafydd Wigley, yn galw ar Lywodraeth y DU i drosglwyddo cyfrifoldeb dros Ystad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i'r Mesur yn pasio yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedodd yr Arglwydd Livermore, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys nad yw Llywodraeth y DU yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru, ac yn hytrach yn credu bod y ffordd y mae’n gweithredu ar hyn o bryd yn “darparu’r canlyniadau gorau i Gymru a’r Deyrnas Unedig ehangach”.
Fodd bynnag, bydd AS Plaid Cymru Llinos Medi yn ailgyflwyno’r Mesur fel Mesur Preifat yn Nhŷ’r Cyffredin. Bydd ond yn symud yn ei flaen os yw Llywodraeth y DU yn cytuno i roi amser seneddol iddo. Bydd Ms Medi hefyd yn cyflwyno Cynnig Cynnar (EDM) yn annog y Llywodraeth i wneud hynny.
Ym mis Chwefror 2025, cyflwynodd Ms Medi welliant i Fesur Ystad y Goron Llywodraeth y DU a fyddai wedi rhoi cydraddoldeb i Gymru â'r Alban drwy ddod â phwerau dros adnoddau naturiol i ddwylo Cymru. Pleidleisiwyd yn erbyn y gwelliant, gan gynnwys gan bob AS Llafur o Gymru.
Ers hynny, mae pob un o'r 22 cyngor yng Nghymru wedi pasio cynigion yn galw am ddatganoli Ystad y Goron. Roedd strategaeth etholiadol Llafur Cymru a rannwyd ar gamgymeriad yn nodi eu bod wedi gwneud "yr achos yn falch" dros ddatganoli Ystad y Goron a bod "llawer o Weinidogion Cymru" wedi cael trafodaethau gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, ond nid yw hyn wedi'i gyflawni.
Mae ailgyflwyno'r Mesur hwn i Dŷ'r Cyffredin gan Llinos Medi AS yn rhoi cyfle arall i Lywodraeth Lafur y DU gyflawni polisi eu cymheiriaid yng Nghymru o ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.
Dywedodd Dafydd Wigley, aelod Plaid Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi:
“Rwy’n falch iawn bod y Mesur hwn, a gyflwynais yn y lle cyntaf i Dŷ’r Arglwyddi ym mis Medi 2024, wedi pasio ei gam olaf heddiw. Mae Plaid Cymru a minnau wedi dadlau’n gyson y dylai adnoddau Cymru fod yn nwylo pobl Cymru, ac rwy’n falch o fod wedi sicrhau cefnogaeth o bob ochr o’r Tŷ mai dyma’r ffordd fwyaf rhesymegol i gymunedau Cymru elwa o’r cyfoeth maen nhw’n ei gynhyrchu.
“Rwyf nawr yn edrych ymlaen at weld y Mesur yn symud yn ei flaen i Dŷ’r Cyffredin, lle bydd Llinos Medi yn ei gyflwyno. Dylai Llywodraeth y DU neilltuo amser i ystyried y Mesur oherwydd dyna y mae Cymru’n ei haeddu.”
Ychwanegodd AS Llinos Medi:
“Mae pasio’r Mesur hwn yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw yn sicrhau bod datganoli Ystâd y Goron i Gymru yn ôl ar yr agenda yma yn San Steffan. Mae’n dal yn siomedig iawn na chefnogodd yr un AS Llafur o Gymru fy ngwelliant i ddod â’r pwerau hyn i ddwylo Cymru y llynedd. Collon nhw gyfle i sefyll dros eu hetholwyr eu hunain, a fyddai’n elwa’n uniongyrchol o sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir gan adnoddau naturiol Cymru yn cael ei gadw a’i ailfuddsoddi yn ein cymunedau, yn hytrach na pharhau i gael ei anfon i Lundain.
“Am yn rhy hir, mae cyfoeth wedi cael ei echdynnu o’n cymunedau yng Nghymru, a does gennym ni ddim llais dros sut mae’n cael ei reoli na ble mae’r elw’n mynd. Mae’r Mesur hwn yn gyfle gwirioneddol i ddechrau unioni’r annhegwch hanesyddol hwnnw. Os edrychwn ar yr Alban, sydd wedi cael rheolaeth lawn dros ei Ystâd Goron ers 2016 ac ers hynny wedi ailfuddsoddi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yn ôl i gymunedau lleol. Mae Cymru’n haeddu’r un cydraddoldeb pŵer.
“Nid Plaid Cymru yn unig sy’n galw am hyn chwaith – mae pob cyngor yng Nghymru bellach wedi pleidleisio o blaid datganoli’r pwerau hyn, gan ddangos consensws cenedlaethol clir. Felly, rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r achos hwn unwaith eto i Lywodraeth y DU pan fyddaf yn ailgyflwyno’r Mesur i Dŷ’r Cyffredin fel Mesur Preifat. Dylai Llywodraeth y DU wneud amser ar ei gyfer, oherwydd ni ellir gwrthod rheolaeth i Gymru dros ei hadnoddau ei hun mwyach.”