Mae llefarydd cyllid Plaid Cymru Llyr Gruffydd AS yn dweud bod cyllideb heddiw (dydd Mawrth 8 Mawrth) yn “arwydd pendant ac ymarferol o’n hymrwymiad i helpu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Wrth siarad cyn dadl y Senedd ar y Gyllideb Derfynol, dywedodd Mr Gruffydd bod yr addewid i ariannu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, a fydd yn helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol, “wrth wraidd y gyllideb”.

Er bod y gyllideb ehangach yn cwmpasu holl sbectrwm y llywodraeth, mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cwmpasu 46 o feysydd polisi. Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a chamau i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.

Ond dywedodd Mr Gruffydd y gallai “llawer mwy gael ei wneud” pe na bai cyllideb Cymru yn cael ei phennu gan Lywodraeth San Steffan sydd “allan o gysylltiad” ag anghenion Cymru.

Ychwanegodd Mr Gruffydd y byddai Cymru ar ei hennill o tua £3 biliwn pe bai cyllideb Cymru wedi cynyddu yn unol â maint economi’r DU ers 2010. Yn hytrach, mae Cymru wedi cael ei gadael i “dalu’r bil” ar gyfer prosiectau costus fel HS2.

Bydd Cyllideb Derfynol 2022-23 yn cael ei thrafod yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 8 Mawrth).

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Llefarydd Plaid Cymru ar gyllid:

“Mae hon yn gyllideb sy’n dangos sut y gall cydweithio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chymunedau ym mhob rhan o’r wlad.

“O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy flwydd oed, i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a llawer mwy, diolch i’r ymrwymiadau y mae Plaid Cymru wedi’u sicrhau fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, bydd y gyllideb hon yn creu Cymru sydd hyd yn oed yn wyrddach, hyd yn oed yn decach a hyd yn oed yn gryfach.

“Ond gadewch i ni beidio ag anghofio, er bod y setliad yn edrych yn eithaf cadarnhaol, y gwir yw ei fod yn fwy heriol nag y mae’n ymddangos.  Er y bydd y flwyddyn gyntaf yn gweld cynnydd gwirioneddol yng nghyllidebau’r sector cyhoeddus, mae’n stori wahanol yn y blynyddoedd canlynol, pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo’r wasgfa mewn gwirionedd.

“Rhaid cofio, pe bai’r gyllideb wedi cynyddu yn unol â maint economi’r DU ers 2010, byddem wedi derbyn £3 biliwn yn ychwanegol o gyllid. Ond i'r gwrthwyneb, ac yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru wedi gorfod talu tuag at brosiectau fel HS2, sy’n cael ei adeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac a fydd yn rhoi economi Cymru dan anfantais.

“Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn parhau i gyflwyno’r achos dros fwy o bwerau ariannol i Gymru fel bod polisi economaidd yn cael ei lywio gan yr hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, nid yr hyn sy’n gweithio orau i lywodraeth Dorïaidd sydd allan o gysylltiad, ac sy’n eistedd mewn Senedd a gwlad arall.”