Cyflwyno dadl am yr angen am gynllun tlodi, wedi i Lafur gael gwared ar darged

Ar ddiwrnod olaf busnes y flwyddyn yn y Senedd, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer cynllun Gweithredu ar Dlodi Plant.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ond gollyngwyd y targed yn 2016.

Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 14 Rhagfyr, 2022) yn ddefnyddio dadl olaf y tymor i alw ar Lywodraeth Llafur Cymru i weithredu ar Dlodi plant, a hynny wrth feirniadu'r penderfyniad i ollwng y cynllun i fynd i'r afael â Thlodi Plant a pheidio mynd ati i osod un newydd.

Mae pryderon wedi eu codi am ddiffyg targed gan sawl asiantaeth ac elusen wahanol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, sydd wedi dweud:

“Ar hyn o bryd Cymru yw'r rhan waethaf yn y DU o ran tlodi plant ac rydyn ni hefyd yn profi'r tlodi plant gwaethaf ers nifer o ddegawdau.

“Heb dargedau mae'n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif a wir gweld pa mor dda maen nhw'n gwneud neu pa mor wael yr ydym yn ei wneud.

“Mae gosod targedau clir ac uchelgeisiol yn rhan o'r ateb yn unig a dwi'n galw am hyn er mwyn fy helpu i gyflawni fy swydd, ac er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddod allan o'r sefyllfa enbyd maen nhw'n cael eu hunain ynddi ar hyn o bryd.”

Yn siarad cyn y ddadl, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AS :

“Mae'r argyfwng costau byw presennol wedi gwaethygu lefelau tlodi plant yng Nghymru heb os, ond roedd y lefelau hynny eisoes yn gywilyddus o uchel, gan olygu bod teuluoedd Cymru'n rhy agored i sioc economaidd. 

“Ynghyd â nifer o ymgyrchwyr gwrthdlodi ar draws Cymru, y Comisiynydd Plant a Swyddfa Archwilio Cymru, mae Plaid Cymru yn glir bod angen strategaeth newydd gyda thargedau i sicrhau bod y gwaith brys sydd ei angen i ddileu staen tlodi plant yn effeithiol.

“Mae Plaid Cymru wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Senedd, ac mae'n hollol ddigalon ein bod ni'n gorfod trafod y peth unwaith eto. Rydym yn falch bod camau hanfodol fel prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd yn cael eu darparu erbyn hyn o ganlyniad i’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, ond mae cymaint mwy sydd angen ei wneud. 

“Bydd strategaeth gyda thargedau yn gyrru'r gwaith hwnnw ar draws y llywodraeth ac yn sicrhau bod angen canolbwyntio a phenderfyniad er mwyn dod â thlodi plant i ben.”