Datganiad gan Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ar y Cytundeb Cydweithio
Mae Plaid Cymru wedi dod a’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith.
Gweler ddatganiad gan Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS isod:
“Mae Plaid Cymru wedi dod a’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith.
“Rwy’n falch o sut ddangosodd y Cytundeb bod math newydd o wleidyddiaeth yn bosibl gan ganolbwyntio ar feysydd polisi sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl.
“Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu’r cynnig gofal plant am ddim i filoedd yn fwy o deuluoedd, cymryd camau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, camau i ddiogelu’r Gymraeg, creu cwmni ynni cenedlaethol Ynni Cymru a mwy. Roedd gweithio ar y cyd yn ymateb adeiladol i anhrefn ac ansicrwydd Brexit a’r pandemig Covid, a’r niwed a achosir gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod polisïau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio yn cael eu cyflawni.
“Ar yr un pryd, ers dod yn Arweinydd, rydw i wedi bod yn benderfynol o ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif yn gadarn. Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn bod y Prif Weinidog wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a chredaf ei fod yn dangos methiant sylweddol o farn. Mae’r arian dros ben bellach wedi ei drosglwyddo i Blaid Lafur Keir Starmer. Mae’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o’r Llywodraeth yr wythnos hon - ynglŷn â materion a ddylai fod yn gyhoeddus eisoes - yn peri cryn ofid i mi.
“Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch am y ffordd mae’r Llywodraeth yn ymagweddu mewn perthynas â rhai elfennau o’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gweithredu i gefnogi’r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau, fel y dangoswyd yn fwyaf diweddar yn y penderfyniad i ohirio diwygio’r dreth cyngor.
“Bydd Plaid Cymru yn symud ymlaen gydag ymrwymiad clir a pharhaus i graffu ar record Llafur, gyda phenderfynoldeb o’r newydd i gyflwyno syniadau beiddgar sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau pobl Cymru ar gyfer ein gwlad.”