Plaid Cymru yn beirniadu difaterwch y llywodraeth yn dilyn datgan argyfyngau natur ac hinsawdd

Mae Delyth Jewell AS, llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd ac Ynni, wedi gofyn pam fod Llywodraeth Cymru “mor araf i weithredu” ar yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Galwodd Ms Jewell am ddull gweithredu ddeublyg - sef i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl rymoedd sydd ganddi i fynd i’r afael â’r “argyfyngau cydblethedig”, tra’n galw am ddatganoli grymoedd ynni llawn a grym dros Ystâd y Goron a’i hasedau i Gymru..

Cytunodd Llywodraeth Cymru i gynnig Plaid Cymru oedd yn galw am argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2021 ac argyfwng natur ym mis Ebrill 2019.

Mewn dadl gan Blaid Cymru heddiw (dydd Mercher 13 Hydref), bydd Ms Jewell yn cyflwyno cynigion sy’n cynnwys:

  • Targedau – gosod targedau adfer natur statudol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd
  • Datganoli – mynnu datganoli pwerau a phwerau ynni yn llawn dros ystâd y goron
  • Datblygu – datblygu a buddsoddi mewn gweithlu gwyrdd, ynni adnewyddadwy a phorthladdoedd

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd ac Ynni, Delyth Jewell AS,

Wrth ddatgan argyfwng, dylai gweithredu ar unwaith ddilyn – dyna sut y diffinnir argyfwng. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â’r  argyfyngau cydblethu hyn – natur a hinsawdd.

“Dro ar ôl tro, rydym wedi galw am dargedau adfer natur statudol – wrth bennu targedau, bydd hyn yn arwain y gwaith o fuddsoddi, darparu a monitro. Mae llawer y gellir ei wneud i uwchsgilio ein gweithlu i ddarparu swyddi gwyrdd gyda chanlyniadau gwyrdd, a llawer i'w wneud i ddatblygu ein grid, ein prosiectau ynni a'n porthladdoedd.

“A lle nad oes gan Lywodraeth Cymru’r grym - fel rheoli Ystâd y Goron a’i hasedau yng Nghymru - dylid mynnu’r grymoedd hyn gan San Steffan. Yn syml iawn, dylai Llywodraeth Cymru lywodraethu adnoddau Cymru, dros bobl Cymru.

“Yn y ffordd y mae natur a hinsawdd wedi'u plethu, felly  mae’n dilyn bod achosion y ddwy argyfwng hyn wedi'u plethu, a rhaid bod yr ateb yn mynd i’r afael â’r ddau. Hyd yn hyn, mae’r ymateb gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddiffygiol.”