Sioned Williams yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Cymorth Dewisol yn parhau i fod ar gael i gefnogi teuluoedd sy’n ei chael yn anodd

Mae teuluoedd incwm isel yn wynebu “storm berffaith o ansicrwydd ariannol” oni bai bod Llywodraeth Cymru yn camu i fyny i’w helpu, mae Plaid Cymru wedi rhybuddio.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau Sioned Williams AS y byddai penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn gadael miloedd o deuluoedd heb rwyd ddiogelwch ac yn cwympo ymhellach i dlodi.

Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yw cynllun cymorth lles cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu grant arian bach ar gyfer costau byw hanfodol (EAPs), a chefnogaeth i ganiatáu i rywun fyw’n annibynnol (IAPs).

Newidiwyd y cynllun ar ddechrau'r pandemig i ganiatáu i fwy o bobl hawlio cymorth ariannol os oeddent yn wynebu caledi eithriadol o ganlyniad i gyfyngiadau clo, hunan-ynysu neu golli incwm oherwydd cyfyngiadau.

Mae bron i 220,000 o grantiau arian parod bach sy'n gysylltiedig â Covid ar gyfer costau byw hanfodol wedi'u gwneud trwy'r cynllun er mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, mae nifer y grantiau a ddyfarnwyd trwy'r DAF wedi gostwng yn ddramatig dros yr wythnosau diwethaf oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar hyblygrwydd y Covid yn diwedd Mehefin 2021 oedd yn ei gwneud yn haws i bobl gael cefnogaeth.

Dywedodd Ms Williams fod y DAF yn “ffynhonnell gymorth hanfodol” i filoedd o deuluoedd ac anogodd Lywodraeth Cymru i barhau gyda’r hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer cyrchu’r gronfa y tu hwnt i ddiwedd mis Medi.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, Sioned Williams AS,

“Mae ffyrlo yn dod i ben. Mae biliau cartrefi yn codi. Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dorri o £20 yr wythnos. Mae teuluoedd incwm isel yn wynebu'r storm berffaith y gaeaf hwn o ansicrwydd ariannol ac yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi.

“Mewn tirwedd economaidd mor llwm, a chyda Chymru heb y pŵer ar hyn o bryd, i sicrhau system les decach, fwy trugarog na’r hyn a gynigir gan Lywodraeth Torïaidd San Steffan, mae’r gronfa cymorth dewisol yn ffynhonnell gymorth hanfodol i filoedd o deuluoedd.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm ychwanegol o arian yn y DAF ac wedi gwneud meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyrchu’r gefnogaeth yn fwy hyblyg mewn ymateb i argyfwng COVID, mae disgwyl i’r hyblygrwydd ychwanegol hwn ddod i ben ym mis Medi.

“Mae hyn yn peri pryder mawr, o ystyried y bydd pobl yn parhau i wynebu caledi ariannol ac argyfwng ar ôl y dyddiad hwn, ac y mae’r DAF wedi darparu cefnogaeth hanfodol iddynt yn ystod cyfnod mor eithriadol o anodd.

“Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer cyrchu’r DAF y tu hwnt i ddiwedd mis Medi i sicrhau bod y rhai sydd angen y gefnogaeth hon yn gallu ei gyrchu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag tlodi a chaledi pellach.