Dylai ymlacio cyfyngiadau gael eu gyrru gan “ddata nid dyddiadau” yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi ‘map’ allan o gyfyngiadau heddiw.

Dywedodd Mr Price er bod y darlun yn gwella “wythnos fesul wythnos” ac wrth ganmol bawb a fu’n rhan o’r ymdrech i ostwng y cyfraddau trosglwyddo, nid oedd Cymru “yno eto” o ran bod yn barod i lacio cyfyngiadau ar lefel genedlaethol.

Galwodd Arweinydd Plaid Cymru am estyniad i’r cynllun ffyrlo am “sawl mis ar ôl i gyfyngiadau ddod i ben” gan ofyn am leddfu cyfyngiadau teithio yn “ofalus”.

Ychwanegodd Mr Price ei fod yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn rhoi ffocws craff ar ailgyflwyno swigod mewn ymateb i'r unigrwydd cynyddol o ganlyniad i'r cyfyngiadau cyfredol.

Ychwanegodd na ddylid anwybyddu’r argyfwng iechyd meddwl ac ychwanegodd ei bod yn “hanfodol” y byddai popeth yn cael ei wneud i alluogi campfeydd i fod ymhlith y cyfleusterau cyntaf i ailagor.

Ychwanegodd Sian Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru, fod yn rhaid i ddiogelwch staff ysgolion a phlant fod yn “brif flaenoriaeth” wrth i ysgolion baratoi i agor i fwy o blant yr wythnos nesaf.

 

Galwodd Ms Gwenllian ar y Llywodraeth i fod yn “gwbl dryloyw” gyda’r cyngor gwyddonol diweddaraf cyn dychwelyd unrhyw garfannau pellach a dywedodd y dylai fod yn barod i gau ysgolion unigol yn “gyflym” pe bai clystyrau’n dechrau ymddangos.

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Cysgodol y dylai'r Llywodraeth Lafur gefnogi’n llawn galwadau i staff ysgolion gael blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn o fewn eu grwpiau oedran.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:

“Mae'n ymddangos bod y darlun yn gwella wythnos fesul wythnos a dylid canmol pawb sy'n rhan â'r ymdrech i ostwng y cyfraddau trosglwyddo.

“Fodd bynnag, nid ydym yno eto o ran bod yn barod i lacio cyfyngiadau ar lefel genedlaethol.

“Mae cyfraddau heintiau yn parhau i fod yn uchel ac mae'r hyblygrwydd sydd gennym yn parhau i fod yn gyfyng. Ar bob cam, dylai unrhyw lacio gael ei yrru gan ddata nid dyddiadau.

“Ni allwn anwybyddu’r argyfwng iechyd meddwl sydd yn bodoli yn sgil y pandemig. Mae'n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i alluogi campfeydd i fod ymhlith y cyfleusterau cyntaf i ailagor.

“Mae unigrwydd hefyd yn her go iawn i lawer o bobl, a gobeithiwn y bydd y llywodraeth yn rhoi ffocws craff ar pryd a sut y bydd yn ddiogel dychwelyd i swigod estynedig.

“Dylid lleddfu cyfyngiadau teithio yn ofalus a’r dull synhwyrol fyddai ailgyflwyno’r neges “aros yn lleol” cyhyd ag y bo angen.

“Mae'n hanfodol bod y rhai sydd wedi colli eu bywoliaeth yn parhau i gael eu cefnogi ac rydym yn cefnogi galwad y Resolution Foundation yr wythnos hon i ymestyn ffyrlo am sawl mis ar ôl i'r cyfyngiadau cloi ddod i ben.”

Ychwanegodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg Sian Gwenllian AS,

“Rhaid i ddiogelwch staff a phlant yr ysgol fod yn brif flaenoriaeth wrth i ysgolion baratoi i ail-agor i fwy o blant yr wythnos nesaf.

“Mae cael ein plant yn ôl i addysg wyneb yn wyneb yn hynod o bwysig ond dylai hyn gael ei yrru gan ddata nid dyddiadau hefyd. 

“Rydyn ni’n disgwyl i’r Llywodraeth fod yn gwbl dryloyw gyda’r cyngor gwyddonol diweddaraf y mae’n ei gael cyn dychwelyd unrhyw garfannau pellach - ac yn barod i gau ysgolion unigol yn gyflym pe bai clystyrau’n dechrau ymddangos.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur gefnogi galwadau’n llawn i staff ysgolion gael blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn o fewn eu grwpiau oedran. Dylai mesurau diogelwch bwysleisio awyru adeiladau ysgolion yn ddigonol yn ogystal.

“Yn y cyfamser, mae’r rhaniad digidol yn dal i fodoli ar gyfer y rhai sydd eto i ddychwelyd, a rhaid i’r Llywodraeth ddyblu ei hymdrechion i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cymryd rhan lawn yn eu gwaith ysgol.