Rhyddhad treth tanwydd gwledig, buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni, a chynnydd mewn budd-daliadau ymysg galwadau Plaid Cymru cyn y gyllideb

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, heddiw (Mercher 23 Mawrth) wedi galw am “raglen gynhwysfawr” i fynd i’r afael a “chostau sy’n saethu i’r entrychion a threthi cynyddol” cyn Datganiad Gwanwyn y Canghellor.

Ymysg adroddiadau y bydd Rishi Sunak yn cyhoeddi toriad i’r dreth tanwydd gwledig, mae Plaid Cymru yn hytrach yn cynnig diwygiadau i’r Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig, a fyddai yn targedu rhyddhad i’r ardaloedd sydd yn dibynnu fwyaf ar ddefnyddio ceir oherwydd bod lefelau cludiant cyhoeddus mor isel. Dadl y blaid yw y byddai toriad cyffredinol i’r dreth tanwydd yn anghyson â thargedau hinsawdd, ac y byddai cefnogaeth wedi ei dargedu i ardaloedd gwledig ac ad-daliadau i sectorau allweddol fel cludiant yn decach o lawer.

Mae AS Ceredigion hefyd yn ailadrodd galwadau a wnaeth yn ystod ei araith ar ei fesur Rheol Deng Munud ar ddydd Mawrth (22 Mawrth) lle galwodd am gyflwyno rhaglen effeithiolrwydd ynni trwy Gronfa Codi’r Gwastad. Mae hefyd yn galw am ddileu’r codiad arfaethedig i Yswiriant Gwladol a rhoi rhyddhad i gyflogwyr bach. Byddai hyn yn cael ei wneud trwy gynyddu’r Lwfans Cyflogaeth i £5,000 - mesur sy’n cael ei annog hefyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach.

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, yn hytrach na’r 3.1% sydd ar y gweill ar hyn o bryd, o gofio fod Banc Lloegr yn rhagweld y bydd chwyddiant yn codi uwchlaw 7% y mis nesaf. Canfu dadansoddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree y byddai cynyddu budd-daliadau o’r gyfradd arfaethedig o 3.1% ar adeg pan fo chwyddiant ar i fyny yn golygu y byddai 9 miliwn o aelwydydd incwm-isel sydd â hawl i fudd-daliadau sy’n destun prawf modd, mewn gwaith ac yn ddi-waith, yn cael toriad cyfartalog mewn termau real o £500 y flwyddyn.

Dywedodd Ben Lake AS y byddai’n “anfaddeuol rhoi’r fath galedi ychwanegol ar bobl pan fo costau byw eisoes yn codi.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:

“Mae pobl a busnesau ledled Cymru yn wynebu costau sy’n saethu i’r entrychion a threthi cynyddol. Heddiw, mae gan y Canghellor gyfle euraid i gyhoeddi rhaglen gynhwysfawr o gefnogaeth i fusnesau ac aelwydydd sy’n dioddef dan bwysau costau cynyddol.

“Bydd busnesau ac aelwydydd gwledig yng Nghymru yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y codiad mewn prisiau tanwydd ac ynni. Yn Natganiad y Gwanwyn, rhaid i’r Canghellor ddiwygio’r cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i helpu ardaloedd yng Nghymru lle mae diffyg cludiant cyhoeddus wedi arwain at ddibynnu ar geir am deithiau hanfodol, a chyflwyno cynllun rhyddhad dros dro i sectorau allweddol megis cludiant a chludiant cyhoeddus.

“Ymhellach, dylai’r Canghellor gyflwyno buddsoddiad rhag blaen i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai. Mae Plaid Cymru yn galw am raglen uchelgeisiol o ôl-ffitio tai fyddai’n gostwng biliau ynni yn y tymor hir. Dylai hyn gael ei gyflwyno trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin a ddatganolwyd.

“Dylai’r Canghellor ddefnyddio’r derbyniadau treth uwch i ail-ystyried y codiad arfaethedig i Yswiriant Gwladol, ac o leiaf fe ddylai gynyddu’r lwfans cyflogaeth i ganiatáu busnesau bach i ddal ati i fasnachu heb gynyddu costau i gwsmeriaid.

“Yn olaf, mesur y mae’n rhaid i’r Canghellor gyhoeddi rhag blaen yw cynnydd i fudd-daliadau yn unol â chwyddiant. Byddai gwrthod gwneud hynny yn golygu y byddai 9 miliwn o aelwydydd incwm-isel sydd â hawl i fudd-daliadau sy’n destun prawf modd, mewn gwaith ac yn ddiwaith, yn cael toriad cyfartalog mewn termau real o £500 y flwyddyn. Byddai’n anfaddeuol rhoi’r fath galedi ychwanegol ar bobl pan fo costau byw eisoes yn codi.”