Ann Davies AS yn cyflwyno gwelliannau i fesur Rheilffyrdd Llywodraeth y DU yn galw am ddatganoli rheilffyrdd i Gymru 

Mae Llefarydd Trafnidiaeth Plaid Cymru, Ann Davies AS, wedi cyflwyno gwelliannau i Fesur Rheilffyrdd Llywodraeth y DU yn galw am ddatganoli rheilffyrdd i Gymru.

Mae Ms Davies yn dweud bod trosglwyddo pwerau dros reilffyrdd yn llawn i Lywodraeth Cymru yn “gam hanfodol” i ddarparu system drafnidiaeth fodern a dibynadwy sy’n gweithio i gymunedau ledled Cymru. 

Mae'r gwelliant yn nodi bod rhaid i ddatganoli ddod i rym ar ddyddiad o leiaf tair blynedd ar ôl pasio'r Ddeddf hon, neu ar ddyddiad y cytunwyd arno rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru, pa un bynnag sydd gynharaf. Mae’r gwelliant a gyflwynwyd hefyd yn galw am wneud darpariaethau ynghylch datganoli “cyllid cymesur” fel bod Cymru yn cael cyfran deg o gyllid i fynd gydag unrhyw bwerau ychwanegol. 

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod Cymru, yn hanesyddol, wedi cael ei thanariannu. Er eu bod wedi dyrannu £445 miliwn i Gymru mewn cyllid rheilffyrdd dros gyfnod o 10 mlynedd, amcangyfrifir bod Cymru’n colli cyfanswm o £6 biliwn o HS2, Rheilffordd Rhydychen-Caergrawnt a Rheilffordd y Northern Powerhouse o rwydd eu bod wedi’u dynodi’n brosiectau ‘Lloegr a Chymru’.

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros ddatganoli rheilffyrdd i Gymru ers blynyddoedd maith yn unol â’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mewn araith allweddol ym mis Ionawr 2026, galwodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, am “bennod newydd ar gyfer datganoli” lle galwodd am reolaeth dros reilffyrdd, ynghyd â phwerau dros blismona, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ac Ystâd y Goron. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod datganoli’r holl feysydd polisi hyn i Gymru.

Mae’r Mesur Rheilffyrdd ar fin cyrraedd ei Gyfnod Adrodd, ond nid oes dyddiad wedi’i roi ar ei gyfer yn San Steffan eto. 

 

Dywedodd Ann Davies AS: 

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros ddatganoli rheilffyrdd i Gymru ers blynyddoedd maith oherwydd ei fod yn gam hanfodol i ddarparu system drafnidiaeth fodern a dibynadwy sy’n gweithio i gymunedau ledled ein cenedl.

“Mae blynyddoedd o danariannu ac esgeulustod wedi gadael ein rhwydwaith rheilffyrdd mewn cyflwr ofnadwy, gyda gwasanaethau yn cael eu canslo yn rheolaidd, seilwaith hen ffasiwn a siwrneau afresymol. Ychydig iawn o wledydd eraill y gwelwch bod angen gadael eich gwlad eich hun i deithio o’r gogledd i’r de ar y trên, ond dyna’r realiti i Gymru, ac mae’n gwbl annerbyniol.

“Mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu dro ar ôl tro. Mae HS2, Rheilffordd Rhydychen-Caergrawnt a Rheilffordd y Northern Powerhouse I gyd wedi’u dynodi yn brosiectau ‘Lloegr a Chymru’, er nad oes modfedd o drac wedi’i osod yng Nghymru. Amcangyfrifir bod Cymru’n colli £6 biliwn o ganlyniad – arian a allai drawsnewid ein rheilffyrdd. Eto yn lle hynny, disgwylir i ni fod yn ddiolchgar am y swm pitw o £445 miliwn gan y Trysorlys dros y deng mlynedd nesaf. Mae hyn yn bell o fod yn ddigon da.  

“Byddai datganoli rheilffyrdd yn dod â’r anghyfiawnder hwn i ben ac yn rhoi’r un pwerau a chydraddoldeb ariannu i Gymru â’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn fater o degwch, ond hefyd o ffyniant economaidd. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan sawl tro mai eu blaenoriaeth yw gyrru twf economaidd ledled y DU, ond mae’n amhosibl cyflawni hyn yng Nghymru heb fuddsoddi’n iawn yn ein seilwaith a gwella cysylltedd trafnidiaeth. Byddai datganoli rheilffyrdd yn caniatau i Gymru gynllunio, buddsoddi, a rhedeg rhwydwaith effeithlon sy’n diwallu anghenion lleol, ac yn datgloi potensial economaidd. 

“Dyna pam rydw i wedi cyflwyno gwelliannau i’r Mesur Rheilffyrdd yn mynnu datganoli, oherwydd ni all Llywodraeth y DU barhau i wneud cam â Chymru a disgwyl i’n cymunedau fod yn barod i dderbyn cyn lleied.”