Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru o dan y Blaid Lafur i fynnu datganoli pwerau dros hawliau cyfraith cyflogaeth i Gymru er mwyn amddiffyn hawl gweithwyr i streicio rhag deddfwriaeth gwrth-streicio San Steffan.

Mewn dadl yn y Senedd ar ddydd Mercher 1af o Fawrth, bydd Plaid Cymru yn dadlau y byddai datganoli’r pŵer hwn dros gyfraith cyflogaeth i Gymru yn sicrhau hawliau a phwerau bargeinio gweithwyr. Ond er i’r Blaid Lafur cyfaddef bod ymosodiad ar hawliau gweithwyr, dydyn nhw ddim wedi cefnogi galwadau i ddatganoli’r pwerau i Gymru.

Bydd Bil Streiciau (Lefelau Isafswm Gwasanaeth) Llywodraeth y DU, sydd yn mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn ceisio cyflwyno gofynion newydd i weithwyr ac undebau llafur sydd yn awyddus i streicio. Os nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hynny, byddai undebau llafur yn wynebu colli amddiffyniadau cyfreithiol rhag cael eu herlyn. Yn yr un modd, byddai gweithwyr yn colli amddiffyniadau rhag diswyddo am gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS, wedi mynegi pryder am addewidion cyson y Blaid Lafur yng Nghymru o Lywodraeth Lafur y DU fyddai’n unioni camweddau’r Ceidwadwyr, yn hytrach na cheisio datganoli grymoedd i amddiffyn hawliau a gwella bywydau pobl Cymru cyn hynny.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud bod gwrthwynebiad Llafur i ddatganoli’r pwerau dros hawliau gweithwyr yng Nghymru yn eu rhoi yn groes i’w Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus eu hunain, a gyflwynwyd i’r Senedd ym mis Mehefin 2022. Nod y bil hwn yw gwella gwasanaethau cyhoeddus drwy ‘weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol.’ Bydd hyn yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n ‘wlad gwaith teg’ o fewn fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â ffurfioli perthynas rhwng undebau llafur, y Llywodraeth Cymru, a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd Luke Fletcher AS:

“Mae Plaid Cymru’n credu y dylai’r hawl i streicio am gyflog teg ac amodau gwaith diogel fod yn rhan annatod o hawliau dinasyddion yng Nghymru a ledled y DU. Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn benderfynol o ddileu’r hawl hwn drwy eu deddf gwrth-streicio hunllefus, ac nid yw’n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru eisiau’r pŵer i’w amddiffyn.

 “Byddai’r ddeddfwriaeth bresennol y mae San Steffan am ei phasio yn ceisio dirwyo neu ymddiswyddo undebau a gweithwyr yn y maes iechyd, tân ac achub, addysg, trafnidiaeth, gwastraff niwclear ac ymbelydrol, a lluoedd y ffin.

 “Mae’r gweithwyr allweddol hyn yn cadw’r wlad i redeg, felly mae eu gallu i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon yn arf bargeinio hanfodol er mwyn sicrhau amgylcheddau gwaith diogel a thâl teg.

 “Bydd Plaid Cymru yn parhau i gefnogi hawliau gweithwyr, fel rydyn ni wedi dangos trwy gydol pob streic dros y gaeaf.  Mae absenoldeb y Blaid Lafur ar y llinellau piced yma wedi derbyn sylw ar draws pob rhan o Gymru a’r DU. Rhaid iddynt yn awr fanteisio ar bob cyfle i amddiffyn ein gweithwyr a gallant wneud hyn trwy gefnogi ein galwadau a datganoli pwerau dros hawliau gweithwyr yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, eu sicrhau.”