Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw wedi annog pleidleiswyr ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ei blaid yn y blwch pleidleisio ddydd Iau fel y gall barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau ledled y wlad.

Gan bwyntio at enghreifftiau Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd lle mae Plaid Cymru yn arwain y Cynghorau, dywedodd Adam Price AS fod cael cyngor sy’n cael ei redeg gan y Blaid yn “dda i’r gymuned leol, yr economi a’r amgylchedd” a bod hanes y blaid o ran diogelu swyddi, cefnogi ysgolion a busnesau drwy’r pandemig, a chymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn siarad drosto’i hun.

Fe wnaeth Adam Price annog pleidleiswyr sy'n teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan Lafur a'r Torïaid i "ddewis newid" os ydyn nhw wedi cael llond bol ar wasanaethau lleol annigonol.

Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru:

“Mae ymgeiswyr Plaid Cymru wedi gweithio’n ddiflino dros yr wythnosau diwethaf i fynd â’n neges gadarnhaol i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.

"O Gaernarfon i Gaerfyrddin, mae record cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan y Blaid yn siarad drostynt eu hunain. Mae cael cynrychiolaeth Plaid yn dda i'r economi leol, y gymuned a'r amgylchedd. Drwy gydol y pandemig, cymerodd cynghorau dan arweiniad y Blaid gamau cyflym i ddiogelu swyddi lleol a chefnogi ysgolion a busnesau yn ystod un o’r adegau anoddaf y gall unrhyw un ohonom ei gofio.

“Ar lefel genedlaethol hefyd, mae’r Blaid yn cyflawni dros gymunedau ledled y wlad drwysicrhau prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

“Mae pleidlais dros Blaid Cymru ddydd Iau yn bleidlais i fynd â hyn ymhellach. Mae cynghorau sy’n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru wedi ymrwymo i’r nod o ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

"Mae cymunedau Cymru yn gryfach gyda phencampwyr Plaid Cymru yn ymladd eu cornel. Os ydych wedi cael llond bol ar wasanaethau lleol annigonol, os ydych wedi cael eich siomi gan Lafur a'r Torïaid, dewiswch newid yn y blwch pleidleisio.

"Pleidleisiwch dros Blaid Cymru fel y gallwn barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau mwy o bobl mewn mwy o gymunedau ledled Cymru."