Datganiad Plaid Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod meddai llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“Dylai Cymru wastad ymdrechu i fod yn genedl garedig, tecach, mwy cyfartal -  ‘Cymru i Bawb’ ym mhob ystyr - lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

“Cred Plaid Cymru mai annibyniaeth yw’r unig ffordd y gallwn ni gyflawni hyn gan ei fod yn fodd i adeiladu ein cenedl, ein gwasanaethau cyhoeddus a bywydau ein pobl, er mwyn lleihau anghydraddoldeb a mynd i’r afael â phob math o anghyfiawnder.

Er ein bod yn rhan o’r deyrnas anghyfartal, rhanedig hon, mae Plaid Cymru’n galw am y grym fel y gallwn ddechrau ar y gwaith o drawsnewid economi Cymru a’n system gofal iechyd. Bydd hyn yn hanfodol wrth drawsnewid systemau y mae cymaint o anghyfiawnderau (sy’n wynebu menywod) yn deillio ohoni – gan greu cyfleoedd gwaith a galluogi mynediad at gyflogaeth sy’n talu’n well, llai ansicr, a chael gwared ar anghydraddoldebau yn ein system iechyd a gofal.”