“Digon o gyfleoedd” wedi bod i Lywodraeth Cymru gwella’r cynnig tâl i nyrsys, medd Rhun ap Iorwerth AS

Wrth i gam cyntaf streiciau nyrsys cychwyn, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi neges o gefnogaeth iddynt, ac wedi ailadrodd ei honiad bod gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i osgoi rhagor o streicio.

Wrth siarad yn y Senedd ddoe (dydd Mercher 14 Rhagfyr), dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS: mae’r Gweinidog yn dweud bod ei dwylo wedi’u clymu. Gadewch i mi ofyn hyn iddi: a yw hi hyd yn oed eisiau datglymu ei dwylo, oherwydd mae nyrsys yn dweud wrthyf mai’r hyn maen nhw’n ei weld yw Gweinidog sy’n ymddangos yn hapus i guddio y tu ôl i ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU?”

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ddatganiad yn dilyn cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru lle dywedodd nad oes gan Lywodraeth Cymru “unrhyw fwriad i ddod i ddatrysiad ar ein anghydfod” a bod y streiciau yn “anochel yng Nghymru oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi felly”.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae digon o gyfleoedd wedi bod i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos eu cefnogaeth i’n nyrsys. Ydy, mae eu dwylo wedi’u clymu mewn sawl ffordd gan San Steffan, ond mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio hynny fel rheswm i gilio oddi wrth ei chyfrifoldebau. Nid ydynt heb bŵer, a beth bynnag yw’r cyd-destun, mae llywodraethu bob amser yn ymwneud â blaenoriaethu.

“Dro ar ôl tro mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i edrych ar yr holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt - trethiant, cronfeydd wrth gefn, ail-dosbarthu adnoddau. Ond dyma ni’n cael y dystiolaeth gliriaf - gan y nyrsys eu hunain - eu bod nhw wedi methu'n llwyr â gwneud hynny.

“Mae Plaid Cymru ar ochr pob gweithiwr sy’n brwydro am dâl teg ac amodau gwaith diogel. Rydym yn llwyr gefnogi ein nyrsys sy’n gweithio’n galed wrth iddynt sefyll yn erbyn y toriadau cyflog mewn termau real a’r argyfwng yn eu gweithlu, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar eu cyfrifoldeb i osgoi’r argyfwng hwn.”