Mae Plaid Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth i sector twristiaeth ac adloniant Cymru wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben

Mae Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, wedi adnewyddu galwadau am ymestyn y cynllun ar gyfer sectorau sydd – hyd yma – wedi methu agor, neu'n methu agor yn broffidiol. 

Datgelodd arolwg diweddar o 801 o berchnogion busnes twristiaeth yng Nghymru nad yw 22% o fusnesau wedi gallu agor eto (ar 6 Awst 2020), gyda 47% o atyniadau twristiaeth Cymru dal ar gau. Nid oes newyddion eto ynglŷn â phryd y gallai theatrau, neuaddau cyngerdd a lleoliadau cerddoriaeth eraill agor yng Nghymru.

Gyda Chynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws Llywodraeth y DU yn dod i ben ar 31 Hydref 2020, bydd gan fusnesau sy'n aros ar gau ar ôl y dyddiad hwn “benderfyniad torcalonnus, ond anochel i'w wneud” meddai Helen Mary Jones AS.  

Dywed Ms Jones, mae biliynau o daliadau ffyrlo i fusnesau wedi eu gwneud yn ystod y pandemig. Os caiff staff gael eu diswyddo o 1 Tachwedd ymlaen wrth i’r cynllun ddod i ben bydd hyn yn wastraff o filiynau o bunnoedd.

Dywedodd Helen Mary Jones, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi:

“Mae'n amlwg y bydd rhai sectorau o'r economi yn cymryd llawer mwy o amser i wella nag eraill. Yng Nghymru, mae rhai rhannau o letygarwch a'r rhan fwyaf o ddiwydiant y celfyddydau yn dal ar gau i ffrydiau incwm.

“Pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben yn sydyn ym mis Hydref, bydd un canlyniad dinistriol: i'r sefydliadau sydd wedi cadw staff ar ffyrlo, ond heb ffrydiau incwm, ni fydd ganddynt ddewis ond diswyddo staff. Bydd yn benderfyniad torcalonnus, ond anochel i'w wneud.

“Mae San Steffan eisoes wedi gwario biliynau ar alluogi busnesau i gadw staff. Bydd eu diswyddo ar ddiwedd y cynllun yn gwastraffu miliynau o bunnoedd.

“Rydym eisoes wedi gweld addasiadau i'r cynllun er mwyn galluogi gweithwyr ar gyflogau isel i gael incwm bach os cânt eu gorfodi i ynysu. Gan ei bod yn ymddangos bod cloeon lleol yn debygol yn ein brwydr yn erbyn y feirws, hoffwn weld hyn yn cael ei ehangu i bob gweithiwr sy'n cael ei orfodi i ynysu ond na allant weithio o gartref. Yn allweddol, mae angen i'r swm fod yn ddigonol fel nad yw gweithwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl o deimlo mae eu hunig ddewis yw mynd i'r gwaith pan fyddant yn sâl neu'n ynysu, rhag ofn eu bod wedi'u heintio. Mae taliad o £13 y dydd yn ddechrau i'w groesawu, ond mae angen i hyn fod yn fwy. 

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn hefyd. Os na fydd San Steffan yn ymestyn y cynllun ffyrlo i'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, yna mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar ba gymorth y gallent ei ddarparu.”