Effaith ddinistriol ar wasanaethau cyhoeddus yn brawf na fydd San Steffan byth yn gweithio er budd Cymru – llefarydd cyllid Plaid Cymru Llyr Gruffydd AS

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddefnyddio’r grymoedd sydd ganddi i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag argyfwng costau byw San Steffan, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd Llefarydd Cyllid Plaid Cymru, Llyr Gruffydd AS, er bod pwerau cyllidol Cymru yn gyfyngedig, doedden nhw ddim yn “ddi-rym”.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd Mr Gruffydd fod effaith yr argyfwng costau byw ar gyllid cartrefi a gwasanaethau cyhoeddus yn “brawf” pellach na fyddai San Steffan byth yn gweithio dros Gymru.

Gan alw llymder yn “ddewis gwleidyddol y mae’n rhaid ei wrthod”, galwodd llefarydd cyllid Plaid Cymru yn y Senedd ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r defnydd o bwerau amrywio trethi i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a gwella cyflogau’r sector cyhoeddus.

Ychwanegodd y dylai’r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i “amddiffyn pobl rhag rhai o effeithiau gwaethaf yr argyfwng economaidd hwn” gan ailadrodd y byddai Plaid Cymru yn parhau i “sefyll mewn undod â’r rhai sydd ar streic am well cyflog ac amodau gwaith ” a sicrhau cefnogaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed sydd angen cymorth y gaeaf hwn.

Yn siarad cyn cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid, Llyr Gruffydd AS,

“Nid yw miloedd o deuluoedd bellach yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi neu fwydo eu plant. Mae ein gwasanaeth iechyd mewn cyfnod o argyfwng gyda chleifion yn aros am ddyddiau yn yr adran damweiniau ac achosion brys a nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau.

“Dyma effaith ddinistriol argyfwng economaidd San Steffan ar ein cymunedau a prawf pellach na fydd San Steffan byth yn gweithio i Gymru.

“Bydd y Torïaid yn ceisio honni bod toriadau yn anochel – ond dewis gwleidyddol ydyn nhw a rhaid eu gwrthod. Ac, wedi dros ddegawd o lymder, tanfuddsoddi, a cwymp sylweddol mewn safonau byw does dim byd ar ôl i’w dorri ond gwasanaethau sylfaenol.

“Heb os, bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cael ei hysgogi gan yr angen i ddelio â llanast San Steffan.

“Efallai bod y pwerau cyllidol sydd gennym ni i ymateb i’r argyfwng hwn yn gyfyngedig - ond nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n ddi-rym fel gwlad. Dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellid defnyddio pwerau amrywio trethi i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, gwella’r cynnig cyflog i weithwyr sector cyhoeddus, a helpu’r bobl sy’n dioddef fwyaf yn ystod yr argyfwng hwn.

“Rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn pobl rhag rhai effeith waethaf yr argyfwng economaidd hwn.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, sefyll mewn undod gyda’r rhai sydd ar streic am well cyflog ac amodau gwaith; a pharhau i frwydro am ddyfodol gwell i’n cymunedau.