Cylideb Llafur yn adlewyrchiad o'u methiant i sefyll fyny dros Gymru
“Ni ddylai Cymru orfod derbyn llai” – Heledd Fychan AS
Ymhen y bleidlais heddiw (dydd Mawrth 4ydd Chwefror 2025) ar y Gyllideb Ddrafft 2025-26, mae Heledd Fychan AS wedi beirniadu Llafur am fethu â chyflawni eu haddewid o newid trawsnewidiol i Gymru.
Wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru gosod ei Chyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr 2024.
Er gwaethaf yr addewid o ‘bartneriaeth mewn pŵer’ rhwng y ddwy Lywodraeth Lafur yn San Steffan a Chaerdydd, mae Llafur wedi methu â sefyll fyny dros Gymru i fynnu model ariannu sy'n seiliedig ar anghenion, pwerau dros Ystâd y Goron a'r biliynau sy'n ddyledus i Gymru o HS2.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid a Diwylliant, Heledd Fychan AS:
"Nid yw Cyllideb Llafur yn un a fydd yn mynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r sectorau addysg neu ddiwylliant, ni fydd yn trwsio'r gwasanaeth iechyd, ac ni fydd ychwaith yn golygu y bydd cynghorau ledled Cymru yn gallu darparu’r gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae ein cymunedau'n dibynnu arnynt.
"Er i Lafur ddweud y byddai popeth yn well unwaith y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn cael ei hethol, heb sicrhau'r cyllid teg sydd ei angen ar Gymru, mae'r Gyllideb Ddrafft hon yn blastr byrdymor arall sydd ddim yn cynnig y newid gwirioneddol a addawyd.
"Ni ddylai Cymru orfod derbyn llai. Rydym yn haeddu fformiwla ariannu deg i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym yr hawl i reoli ein hadnoddau naturiol. A dylem gael y £4bn gyfan sy'n ddyledus o HS2. Mae methiant Llafur i sefyll dros Gymru a mynnu hyn i gyd gan eu cydweithwyr yn San Steffan yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb hon. Mae'n amlwg mai dim ond Plaid Cymru sy'n sefyll dros ein cymunedau."