Yn ei gwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw (Dydd Mawrth 4ydd Chwefror 2025), mae arweinydd Plaid Cymru wedi herio Llywodraeth Lafur Cymru am lywyddu dros yr argyfyngau sy’n wynebu’r sectorau addysg a diwylliant.

Wythnos diwethaf, wnaeth Prifysgol Caerdydd cyhoeddi cynlluniau i dorri 400 o swyddi er mwyn cyfuno adrannau a dod â chyrsiau ben, gan gynnwys cerddoriaeth a nyrsio.

Daeth y cyhoeddiad yma wedi misoedd o rybuddion o’r sector Addysg Uwch dros doriadau swyddi posib.

Mae sefydliadau diwylliannol Cymru hefyd yn gwegian. Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi cau dros dro oherwydd pryderon diogelwch dros gyflwr yr adeilad.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

“Wrth i bob diwrnod fynd heibio, mae sefydliadau o bwysigrwydd diwylliannol, addysgol a chenedlaethol yn cael eu datgymalu fesul un - gan brofi bod Llafur yn adnabod pris popeth ond gwerth dim byd.

“Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi gorfod cau dros dro ac mae 400 o swyddi ar y lein ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Rydyn ni'n gweld toriadau i Gyngor Celfyddydau Cymru, ac eisoes wedi colli'r Theatr Genedlaethol. Ac erbyn hyn, mae’n bosib fydd adran gerddoriaeth fyd-enwog o fewn prifysgol fwyaf Cymru yn cau – a gwlad y gân yn cael ei thawelu ar wyliadwriaeth Llafur.

“Gydag argyfwng nyrsio’r gwasanaeth iechyd ar ei anterth – neges Llafur yw nad ydyn nhw’n poeni am y rhai sydd eisiau gwneud gyrfa allan o ofalu am eraill.

“Ar ôl bron i 26 mlynedd, mae Llafur yn mynd o un argyfwng i'r llall ac mae eu diffyg gweledigaeth a'u huchelgais i Gymru yn amlwg i bawb. Dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig y dechrau newydd sydd ei angen ar Gymru.”