Effaith 'syfrdanol' cynnydd Yswiriant Gwladol ar gartrefi gofal
Llinos Medi AS yn dweud wrth Starmer y bydd un cartref nyrsio yn gweld cynnydd o £127,500 mewn costau oherwydd y Gyllideb
Mae AS Plaid Cymru Ynys Môn, Llinos Medi, wedi galw ar Brif Weinidog y DU, Keir Starmer i ailystyried cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr, gan dynnu sylw at yr effaith "syfrdanol" ar gartrefi gofal.
Mae cartref gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn yn etholaeth Llinos Medi yn dweud wrthi fod y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr, ynghyd â'r cynnydd yn yr isafswm cyflog, yn cynrychioli cynnydd o 10% yn eu costau. Mae hyn yn gynnydd o £127,500 i Glan Rhos.
Mae meddygon teulu, cartrefi gofal a hosbisau wedi lleisio pryderon am effaith y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a gyhoeddwyd yn y Gyllideb.
Wrth siarad yng ngwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Llinos Medi AS:
"Mae cartref nyrsio Glan Rhos yn fy etholaeth i, Ynys Môn, yn dweud wrtha i fod newidiadau i'r gyllideb yn golygu cynnydd o 10% yn eu costau. Mae hynny'n swm anhygoel o £127,500 o gostau ychwanegol yn ystod y flwyddyn. A wnaiff y Prif Weinidog ailystyried y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol cyflogwyr?"
"Mae cartrefi gofal yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ond yn cael eu trin fel busnesau preifat fel unrhyw un arall gan y Trysorlys. Mae hyn yn annheg a bydd y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael ôl-effeithiau i deuluoedd di-rif. Mae meddygfeydd hefyd yn wynebu pwysau tebyg, felly gyda'i gilydd, mae'r Gyllideb yn rhoi pwysau ychwanegol enfawr ar iechyd a gofal cymdeithasol. Yn Ynys Môn, roedd meddygon teulu a chartrefi gofal eisoes yn ei chael hi'n anodd. Bydd llawer yn wynebu dewisiadau amhosibl. Rwy'n annog y Prif Weinidog i ailystyried y polisi hwn."
Dywedodd perchennog Glan Rhos, Kim Ombler:
"Rydyn ni'n poeni'n fawr am newidiadau yn y Gyllideb ar y gwasanaethau hanfodol rydyn ni'n eu darparu. Rydym yn gofalu am 52 o breswylwyr ac rydym am allu parhau i recriwtio staff a pharhau i ddarparu'r gofal o'r ansawdd gorau. Mae'r Gyllideb yn gwneud hyn yn anodd dros ben, a dwi'n gobeithio bod Keir Starmer yn gwrando ar Llinos Medi ac ailystyried y mesurau yma."