Mae Adam Price AS wedi lansio’r ymgynghoriad mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes y Blaid

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS heddiw (Dydd Gwener 15 Gorffennaf) wedi lansio’r ymgynghoriad mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes y Blaid.

Dywedodd Mr Price y bydd mewnwelediad, gwybodaeth a phrofiad yr aelodau yn llywio strategaeth gynhwysfawr a fydd yn galluogi’r Blaid i “weithio’n graff ac yn glyfrach.”

Bydd yr ymgynghoriad “Eich Plaid, Eich Llais”, sy’n agored i holl aelodau’r blaid dros yr haf yn gofyn “y cwestiynau cywir – ond nid bob amser y rhai hawdd” medd Mr Price, gyda materion yn cael eu trafod yn cynnwys Annibyniaeth ac Ewrop, y cydbwysedd rhwng adeiladu’r blaid ac adeiladu'r genedl a nodau etholiadol.

Wrth lansio’r ymgynghoriad dywedodd Adam Price:

“Ein aelodau llawr gwlad ni sy’n cadw ni’n driw i’n gwerthoedd a’n gweledigaeth, sy’n ein gwneud ni’n radical a pherthnasol, sy’n ein gwneud ni’r hyn ydym ni, “nid yn unig Plaid Cymru ond plaid Cymru i Bawb.”

“Dyna pam y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio mewnbwn a syniadau aelodau ar yr ystod ehangaf o faterion a gyflwynwyd erioed i’n aelodau.  O drefniadaeth y blaid i’r llwybr i annibyniaeth, nid oes yr un garfan arall o aelodau’r Blaid erioed wedi cael y cyfle i lunio blaenoriaethau strategol eu plaid yn y fath fodd.”

“Trwy ofyn y cwestiynau cywir – ond nid y rhai hawdd bob amser – y nod yw manteisio ar  fewnwelediad, gwybodaeth a phrofiadau cyfunol yr aelodau er mwyn llywio strategaeth gynhwysfawr sydd wedi’i dylunio i wneud i’r blaid weithio’n graff ac yn glyfrach.”

“Annibyniaeth ac Ewrop, cydbwyso adeiladu’r blaid ag adeiladu’r genedl, nodau etholiadol a chydweithrediad gwleidyddol - dyma rai o’r pynciau yr ydym yn ymgynghori ag aelodau arnynt.”

“Erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, bydd Plaid Cymru wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed. Mae nawr yn amser priodol i ni bwyso a mesur – gan gydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu a pharatoi ar gyfer cyfleoedd newydd – a gofyn beth all cyfraniad Plaid Cymru fod wrth i’n cenedl gymryd y camau nesaf ar ei thaith.”