Mae Plaid Cymru wedi ymateb i gadarnhad enwebiad Eluned Morgan gan y Blaid Lafur, ac mai hi fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru:

 

“Rwy’n llongyfarch Eluned Morgan ar ei phenodiad fel arweinydd Llafur yng Nghymru.

 

“Mae’r ffaith mai hi ydi’r trydydd arweinydd mewn tri mis yn siarad cyfrolau am yr anhrefn wrth galon y blaid sy’n llywodraethu.

 

“Mae Cymru angen i’w Phrif Weinidog lwyddo, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ddewisiadau fod yn wahanol a chanlyniadau fod yn well.

 

“Gwaddol uniongyrchol amser Eluned Morgan mewn llywodraeth hyd yma yw’r amseroedd aros hiraf ar gofnod, ac anallu i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r NHS.

 

“Mae pobl yn ysu am arweinyddiaeth sy’n fwy uchelgeisiol, cymwys ac effeithiol.

 

“Dylai Eluned Morgan alw etholiad ond wnaiff hi ddim, felly tra bod Llafur yn parhau i ddadlau ymysg ei gilydd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig dewis amgen y gall pobl ym mhob cwr o’n gwlad uno y tu ôl iddo.”