Mae unig Gynghorydd Sir y Blaid Werdd yng Nghymru, Emily Durrant, wedi cyhoeddi ei bod wedi ymuno â Phlaid Cymru.

Heddiw, cadarnhaodd Emily Durrant, Cynghorydd Sir Powys a chyn ymgeisydd Senedd y Blaid Werdd ei bod wedi gadael y blaid werdd gan ymuno â Phlaid Cymru.

Dywedodd Ms Durrant fod ei phenderfyniad - a ddaeth ar ôl “llawer o feddwl dwfn a gofalus” wedi’i ysgogi wedi iddi sylweddoli na fyddai cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol “byth yn cael ei gyflawni” tra bod Cymru’n aelod o’r DU ac “yn y pen draw yn cael ei llywodraethu gan San Steffan”.

Canmolodd Ms Durrant flaenoriaethau Plaid Cymru gan gynnwys ei pholisi ar annibyniaeth a’r ffordd y mae’n edrych i rymuso cymunedau.

Croesawyd ei phenderfyniad gan Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys Elwyn Vaughan ac Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Bydd Ms Durrant, oedd yn ymgeisydd ar y rhestr rhanbarthol ar gyfer Plaid Werdd Cymru a Lloegr yn ystod etholiadau Senedd eleni, nawr yn eistedd fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys ochr yn ochr ag Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, Elwyn Vaughan, a'r Cynghorydd Bryn Davies.

Dywedodd y Cynghorydd Emily Durrant,

“Nid yw newid plaid yn benderfyniad hawdd ac fe ddaeth wedi llawer o feddwl dwfn a gofalus. Ond daeth yn amlwg i mi na fydd cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol byth yn cael ei gyflawni tra ein bod yn y pen draw yn cael ein llywodraethu gan San Steffan.

“Newid hinsawdd a choll byd natur yw'r her fwyaf sy'n wynebu cenedlaethau'r dyfodol. Ond, gyda rheolaeth lawn dros ein hadnoddau ein hunain, dros fasnach ac is-adeiledd, byddai Cymru mewn gwell sefyllfa i gyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd – gan ddatgloi potensial gwyrdd Cymru ar yr un pryd.

“Rydw i eisiau bod yn aelod o blaid sy’n gosod y gwaith o sicrhau annibyniaeth fel ei phrif flaenoriaeth. Plaid sy'n grymuso pobl leol a'u cymunedau. Plaid sy'n rhoi mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn gyntaf. Plaid a fydd yn gweithio tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy er budd pawb. Dyna pam rydw i wedi ymuno â Phlaid Cymru.

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys, y Cynghorydd Elwyn Vaughan,

“Rwy’n falch iawn o groesawu Emily i Blaid Cymru ac i grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys.

“Mae Emily yn dod â chyfoeth o brofiad gyda hi a fydd yn amhrisiadwy wrth i ni weithio gyda'n gilydd tuag at mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gosod sylfeini Cymru annibynnol gymdeithasol gyfiawn, a chreu dyfodol cynaliadwy i'n cenedl a'n planed.

“Mae ymrwymiad Emily i’r achosion y mae hi’n eu hyrwyddo wedi creu argraff arnaf, ac ni allwn fod yn hapusach ei bod wedi dod o hyd i gartref newydd gyda Plaid Cymru.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

“Rwy’n falch iawn o groesawu Emily i Plaid Cymru. Mae Emily yn Gynghorydd gweithgar ac uchel ei pharch a gwn y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i waith ein plaid.

“Mae ei phenderfyniad yn adlewyrchu apêl eang Plaid Cymru ac yn wythnos COP 26 mae’n ardystiad pwerus o ymrwymiad y blaid i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”