Teyrnged i Emrys Roberts
Roedd Emrys Roberts yn hynod o ddylanwadol ar wleidyddiaeth Cymru am dri degawd. Roedd ei gyfraniad i'r Blaid yn eithriadol o'r 60au, pan fu yn Ysgrifennydd Cyffredinol egniol, ac fel ymgeisydd y Blaid yn isetholiad Merthyr yn 1972.
Ei orchest etholiadol fwyaf oedd arwain y Blaid i reoli cyngor lleol am y tro cyntaf - ym Merthyr yn 1976. Roedd yn ddylanwad mawr ar genhedlaeth o genedlaetholwyr, ac mae coffa cynnes iawn amdano ym Mhlaid Cymru.