‘Angen lefel ffyrlo o gefnogaeth i fusnesau bach’ – Plaid Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS heddiw (Sul 4 Medi) wedi galw ar i’r Prif Weinidog nesaf weithredu “lefel ffyrlo o gefnogaeth” i fusnesau bach yn ystod yr argyfwng ynni.

Ailadroddodd AS Ceredigion alwad ei blaid i ostwng y cap prisiau i’r lefelau yr oeddent cyn mis Ebrill a’i ymestyn i fusnesau bach ac elusennau, nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu gwarchod gan unrhyw gap ar brisiau.

Dywedodd Mr Lake y bydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DG yn arwain at “ddifodiant ariannol” i fusnesau bach. BBaCh yw 99.4% o fusnesau yng Nghymru, sy’n darparu 62.6% o gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru. Mae 95% o fusnesau yng Nghymru yn feicro-fusnesau, sy’n cyflogi rhwng 0-9 o weithwyr.

Dywedodd Mr Lake, o gofio pwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru, fod yn rhaid i’r Prif Weinidog newydd gydnabod “heb yr un lefel o gefnogaeth i fusnesau ag a roddwyd yn ystod y pandemig, bydd ein heconomi yn chwalu.”

Dywedodd  Ashley Hughes, perchennog siop y gornel yn Nefyn, Gwynedd, fod disgwyl i’w filiau trydan misol godi o £605.70 i £2,877, o 16c yr uned i 78.c

Cefnogodd Mr Hughes alwad Plaid Cymru gan ddweud “heb gefnogaeth o San Steffan, bydd trefi fel Nefyn yn troi’n drefi gwag lle na fedr yr un busnes aros ar agor.”

Meddai Ben Lake AS:

“Mae parlys y Llywodraeth dros yr haf yn golygu fod busnesau bach ar hyd a lled y wlad yn paratoi am aeaf llym. Nid yw ein Prif Weinidog nesaf – os yw’r polau piniwn i’w credu – wedi addo dim i aelwydydd na busnesau sy’n wynebu difodiant ariannol ymhen ychydig wythnosau.

“Mae absenoldeb cap ar brisiau ynni i fusnesau yn golygu fod cwmnïau ynni yn manteisio i’r eithaf ar fusnesau bach. Tra gall corfforaethau mwy warchod rhag costau ynni cynyddol, fydd gan gwmnïau llai ddim dewis ond cau oherwydd costau anghynaladwy y gaeaf hwn.

“Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Heb yr un lefel o gefnogaeth i fusnesau a’r hyn a roddwyd yn ystod y pandemig, bydd ein heconomi yn chwalu. Mae arnom angen lefel o gefnogaeth debyg i’r ffyrlo, a dyna pam fod Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DG i ddychwelyd y cap ar brisiau i’r lefelau oeddent cyn mis Ebrill, a’i ymestyn i  fusnesau bach ac elusennau.

“Yn y tymor hwy, mae angen cymysgedd o grantiau a benthyciadau i BBaCh elwa mwy o ffynonellau ynni adnewyddol a mesurau effeithlonrwydd ynni. Heb fesurau o’r fath, bydd busnesau bach yn parhau i ddioddef effaith anghymesur amrywiadau mewn marchnad ynni anghynaliadwy ac annheg.”

Ychwanegodd Ashley Hughes:

“Rydym yn disgwyl i’n biliau trydan misol godi o £605.70 i £2,877. Mae meddwl am wynebu hynny yn ddychryn: fydd dim modd i fusnesau bach fel ein hun ni fforddio hynny.

“Mae llawer o fusnesau bach yng nghefn gwlad Cymru eisoes yn cael anhawster oherwydd costau uchel. Heb gefnogaeth gan San Steffan, bydd trefi fel Nefyn yn troi’n drefi gwag lle na all yr un busnes aros ar agor.

“Rwy’n erfyn ar y Prif Weinidog nesaf  – boed Truss neu Sunak – i fabwysiadu galwadau Plaid Cymru am ostwng y cap ar brisiau a’i ymestyn i fusnesau bach. Heb gamau o’r fath, fydd busnesau fel ein rhai ni yn cael trafferth enbyd i ddod yn ôl ar ein traed.”