Llinos Medi AS yn rhybuddio Ed Miliband y gallai gosod rhannau o Gymru mewn parthau ynni yn Lloegr gosbi aelwydydd Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Ynni, Llinos Medi AS, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Net Zero i fynegi pryderon ynghylch Adolygiad Llywodraeth y DU o Drefniadau’r Farchnad Drydan a’i symudiad posibl tuag at system brisio parthau.

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried diwygiadau mawr i system prisio ynni’r DU wrth iddi geisio datgarboneiddio’r grid trydan erbyn 2030.

Mae’n archwilio dau opsiwn: diwygio’r system brisio bresennol ar gyfer y DU gyfan neu gyflwyno dull newydd a elwir yn brisio “parthol”. Byddai hyn yn rhannu’r DU yn rhwng saith a 12 parth, pob un â phrisiau cyfanwerthol gwahanol yn seiliedig ar eu cymysgedd ynni lleol.

Mae adroddiadau’n awgrymu, pe bai’r Llywodraeth yn dilyn dull parthol, y byddai Cymru’n cael ei rhannu’n barthau prisio, wedi’u grwpio ag ardaloedd yn Lloegr. O ystyried y galw cymharol is am ynni mewn rhannau o Gymru, gallai hyn arwain at brisiau ynni uwch i ddefnyddwyr Cymru oherwydd galw uchel mewn dinasoedd mawr yn Lloegr, yn hytrach na chyflawni’r gostyngiadau arfaethedig mewn costau mewn ardaloedd cynhyrchu uchel, fel y gwelir mewn mannau eraill megis gogledd yr Alban.

Mae Ms Medi yn rhybuddio, oni bai bod Cymru’n cael ei thrin fel un parth ynni, y gallai’r newidiadau hyn arwain at gostau ynni uwch i aelwydydd Cymru – er bod Cymru’n allforiwr trydan net.

Yn ei llythyr, mae Llinos Medi yn amlygu’r realiti, er bod Cymru’n cynhyrchu cyfran sylweddol o drydan y DU, ei bod hefyd yn dioddef o dlodi tanwydd uchel, gan effeithio ar 45% o aelwyddydd. Mae'r symudiad arfaethedig i brisio parthol yn gyfle i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn drwy sicrhau bod prisiau ynni yn adlewyrchu lefelau cynhyrchu lleol.

Mae’r llythyr yn galw am eglurder ar agweddau allweddol ar y model prisio arfaethedig ac yn ceisio atebion i’r cwestiynau canlynol:

  • Pryd fydd y Llywodraeth yn cwblhau ei Hadolygiad o Drefniadau'r Farchnad Drydan ac yn cyhoeddi ei phenderfyniad ar brisio parthol?
  • Pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith bosibl model aml-barth ar dlodi tanwydd a safonau byw yng Nghymru?
  • A wnaiff y Llywodraeth ystyried un parth Cymreig wrth fodelu'r system brisio parthau arfaethedig?

Dywedodd Llinos Medi AS:

“Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw fel cenedl sy’n gyfoethog mewn ynni ond sy’n talu costau anghymesur o uchel amdano. Mae adolygiad Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfle i wneud prisiau ynni yn decach, ond rwy’n bryderus iawn y gallai model rhanbarthol gael yr effaith groes, gan godi biliau ar gyfer cymunedau fel fy un i yn Ynys Môn.

“Rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r farchnad drydan o fudd i gymunedau mewn ardaloedd sy’n cynhyrchu symiau uchel o ynni, yn hytrach na’u rhoi dan anfantais. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dewis dilyn model parthol, rhaid trin Cymru fel un parth ynni.”