Plaid Cymru yn gwneud yr achos 'synnwyr cyffredin' i'r DU ailymuno â'r farchnad sengl yn 2025.
Rhaid i 'ailosodiad' y DU a'r UE gynnwys aelodaeth o'r farchnad sengl ac undeb tollau meddai Liz Saville Roberts wrth Keir Starmer.
Heddiw (dydd Gwener 3 Ionawr) mae Arweinydd San Steffan Plaid Cymru, Liz Saville Roberts AS, wedi galw ar y Prif Weinidog Keir Starmer i sicrhau bod ei "ailosodiad rhwng y DU a'r UE" yn 2025 yn cynnwys aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS, y mae ei phlaid wedi dadlau yn gyson y dylai'r DU ailymuno â'r bloc masnachu mwyaf yn y byd, dynnodd hi sylw at "gefnogaeth gyhoeddus gynyddol ar gyfer cysylltiadau agosach â'r UE" a beirniadodd Llafur a'r Torïaid am fethu ag amddiffyn yr economi yn sgil Brexit.
Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd:
"Mae dinesydd cyfartalog y DU bron i £2,000 yn waeth ei fyd yn 2023 o ganlyniad i Brexit.
"Nid yw'n syndod felly bod cefnogaeth gyhoeddus gynyddol ar gyfer cysylltiadau agosach â'r UE - y bloc masnachu mwyaf y byd.
"Ers dod yn Brif Weinidog, mae Keir Starmer wedi dweud y bydd yn "ailosod" cysylltiadau ôl-Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd.
"Roedd 42% o holl allforion y DU a 52% o holl fewnforion y DU gyda'r UE yn 2023. Yn syml, mater o synnwyr cyffredin ac economeg gadarn yw y dylai unrhyw "ailosod" gynnwys aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau.
"Mae hyn er budd busnesau Cymru ac economi ehangach Cymru sydd ar fin wynebu ergyd arall diolch i newid Llafur i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
"Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog nawr roi buddiannau economaidd Cymru a'r DU yn gyntaf neu bydd cyhuddiadau fod ei "ailosodiad" yn ddim byd ond slogan."