“Mae yna ffordd, ond mae diffyg ewyllys gan Lywodraeth Cymru” – Adam Price AS

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod cynnig cyflog o 8% i nyrsys GIG Cymru yn bosib gan ddefnyddio’r arian wrth gefn presennol a chyllid heb ei ddyrannu.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod gwybodaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid yn profi bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian i gynnig codiad cyflog o 8% i nyrsys – mwy na 3% yn uwch na’r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd.

Mae’r cynnig cyflog presennol gan lywodraeth Cymru yn rhoi codiad o tua 4.8% ar gyfartaledd i staff y GIG. Er mwyn cyrraedd cynnig cychwynnol o 8% byddai angen £176m ychwanegol yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Dywed Plaid Cymru y gallai’r arian ddod o gyfuniad o’r £152.3m o gyllid sydd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, tynnu i lawr o Gronfa Wrth Gefn Cymru yn ogystal ag unrhyw danwariant a ragwelir yn y cyllidebau adrannol presennol.

Dywed Mr Price na fydd y cynnig presennol sydd ar y bwrdd – taliad untro o swm amhenodol i nyrsys – yn gwneud dim i wella cynaliadwyedd hirdymor y proffesiwn, ac ni fydd ychwaith yn helpu i ddenu staff newydd. Gallai effaith cynnig cyflog uwch ar gyllideb y flwyddyn nesaf gael ei hariannu drwy gyfuniad o lai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth y sector preifat a defnydd cynyddol o bwerau treth incwm Llywodraeth Cymru.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wedi nodi’n ddiweddar ei fod “yn barod i fod yn real am yr hinsawdd economaidd” a’i fod yn barod i drafod cyflog.

Dywedodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru:

“Mae codiad cyflog tecach yn hanfodo ac yn bosib – beth bynnag mae Llywodraeth San Steffan yn ei benderfynu. Pan fo ffordd glir ymlaen i gynyddu’r dyfarniad cyflog i nyrsys, yr unig gwestiwn sydd ar ôl yw a oes gan Lywodraeth Cymru yr ewyllys i fuddsoddi yn ein nyrsys.

“Mae angen cyflog teg ar nyrsys, ac mae angen dyfarnu’r tâl hwn mewn ffordd sy’n helpu i sicrhau cynaliadwyedd y proffesiwn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflym i frolio ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru. Ond pan ddaw i driniaeth nyrsys, parafeddygon a staff eraill y gwasanaeth iechyd sy'n ymladd am gyflog tecach, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn rhy barod i ailadrodd camgymeriadau'r Torïaid yn San Steffan. Yn yr un penwythnos cyhoeddodd y Torïaid daliad untro i nyrsys yn Lloegr, heb gynyddu’r dyfarniad cyflog, clywn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn bwriadu gwneud yr un peth i nyrsys yma yng Nghymru.

“Ni fydd taliad untro yn helpu i gadw nyrsys yn y swydd, ac ni fydd ychwaith yn denu pobl newydd i nyrsio. Nid yw ein GIG yn ddim byd heb ei weithwyr, a byddai cynnig cyflog llawer gwell – sy’n gwbl gyraeddadwy – yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn yr ydym i gyd yn dibynnu arno.”