Luke Fletcher AS yn galw am feddwl yn y tymor hir ar yr argyfwng twristiaeth

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi Luke Fletcher AS wedi rhybuddio y bydd y “diffyg grantiau ailgychwyn fel y rhai a welir yn Lloegr a'r Alban” yn arwain at fusnesau'n defnyddio eu “cronfeydd wrth gefn sydd eisoes wedi'u disbyddu”.

Dywed Mr Fletcher nad yw costau mawr fel ailstocio nwyddau darfodus a sicrhau bod safleoedd yn ddiogel rhag COVID wedi'u cynnwys yn y mathau o grantiau ailgychwyn sydd ar gael yn wahanol i’r Alban a Lloegr. Mae Mr Fletcher hefyd wedi tynnu sylw at y bwlch yng ariannu ERF rhwng misoedd Mawrth a Mai fel un sy'n achosi “pryder annymunol ychwanegol” i fusnesau.

Mae perchennog gwesty Wynnstay ym Machynlleth, Charles Dark, yn dweud er ei fod bob amser wedi cael ei ddysgu i “wneud y mwyaf o’r tywydd da” ac wedi parhau'n bositif drwy gydol y pandemig, mae'r ansicrwydd ynglŷn a pha mor hir y bydd y tymor gwyliau hwn yn para wedi rhoi achos pryder ychwanegol iddo. Dywed Mr Dark fod costau ychwanegol i wneud y safle'n ddiogel rhag COVID, costau cynyddol o fod angen mwy o staff i redeg yr un gwasanaeth, ac mae'r bwlch mewn cyllid yn ystod mis Ebrill wedi golygu ei fod yn gorfod cymryd benthyciadau i ddal ati, ac mae disbyddu ei gronfeydd wrth gefn yn ei gwneud yn bwysicach fyth gallu “gwneud y mwyaf” o’r haf hwn.

Mae Luke Fletcher AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth i weithredu i ddangos ei “hymrwymiad hirdymor” i'r diwydiant drwy gyflwyno grantiau ailgychwyn.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Luke Fletcher AS,

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan eu nod o gynyddu twristiaeth a chefnogi lletygarwch yng Nghymru, ond nid ydynt wedi cefnogi hynny gyda'r math o gymorth sydd ar gael yn yr Alban a Lloegr – sef ailgychwyn grantiau.

“Yn ystod y pandemig, roedd llawer o'r lleoliadau hyn yn rhoi cymorth i'w cymunedau lleol – rhoi prydau bwyd i weithwyr iechyd, neu cymorth i aelodau ynysig o'r gymuned – ac maen nhw'n daer am gymorth y Llywodraeth nawr.

“Nid yw'n ymwneud â'r arian yn unig – mae angen y math o weithredu arnom sy'n dangos ymrwymiad hirdymor y Llywodraeth i'r diwydiant pwysig hwn. Pe bai'r llywodraeth yn gwrando ar y sector mewn gwirionedd, byddent yn gwybod bod llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn pryderu'n wirioneddol am eu dyfodol, hyd yn oed nawr, ar ddechrau'r tymor ymwelwyr.”

Meddai Charles Dark, perchennog Gwesty Wynnstay ym Machynlleth

“Ar ddechrau'r pandemig roedd yn teimlo fel bod Llywodraeth Cymru y tu ôl i fusnesau lletygarwch Cymru fel fy un i. Fodd bynnag, roedd y bwlch mewn cyllid yn ystod mis Ebrill yn ein gosod yn ôl mewn gwirionedd – nid oeddem yn gallu cael arian i fewn oddi wrth westeion sy'n talu ac eto roedd gennym yr holl ofynion misol i’w talu allan.

“Dwi wastad wedi cael fy nysgu i 'wneud y mwyaf o’r tywydd da' ac wedi cadw cysylltiad a’r cyllid sydd ar gael i'r busnes, ond hyd yn oed wedyn dwi wedi gorfod benthyg arian i'n gweld ni drwy'r gaeaf. Rwy'n wirioneddol bryderus am y gaeaf hwn.”