Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru ac a gynhaliwyd gan academydd blaenllaw yn dangos y byddai bwlch cyllidol Cymru annibynnol yn ffracsiwn o’r ffigwr a adroddwyd yn flaenorol.

Wedi ei ddisgrifio fel rhywbeth fyddai’n “trawsnewid y drafodaeth” yn y ddadl dros annibyniaeth i Gymru gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS, mae dadansoddiad yr Athro John Doyle o Brifysgol Dinas Dulyn yn dod i’r casgliad y byddai’r bwlch cyllidol yn nyddiau cynnar Cymru annibynnol tua £2.6bn – sydd yn sylweddol is na'r ffigwr a ddyfynnir yn aml o £13.5bn.

Mae hyn yn seiliedig ar amcangyfrif 2019 o gyfanswm allbwn economaidd Cymru sef £77.5 biliwn a byddai’n cyfateb i ychydig o dan 3.4% o CMC (GDP). Mae hyn yn cymharu â diffyg cyllidol cyfartalog ar draws holl wledydd yr OECD o 3.2% yn 2019.

O ganlyniad, byddai’r diffyg cyllidol y byddai Cymru annibynnol yn ei wynebu yn gwbl gyffredin i wledydd cymaradwy ac nid yw’n cyfateb mewn unrhyw ffordd i’r rhwystr mae eraill wedi ceisio’i gyflwyno fel dadl yn erbyn annibyniaeth.

Mae gan hyn oblygiadau mawr i’r ddadl ar ddichonoldeb ac amseriad annibyniaeth i Gymru. Oherwydd maint tybiedig y ‘bwlch cyllidol’, sy’n anghywir fel y dangoswyd ym mhapur yr Athro Doyle, y rhagdybiaeth hyd yma yw bod angen i Gymru ddod yn economi gryfach o fewn y DU cyn y gellir ystyried annibyniaeth fel rhywbeth ‘realistig’.

Y cwestiwn go iawn sydd angen ei ofyn yw a oes unrhyw obaith realistig y bydd Cymru’n gwella’n ei pherfformiad economaidd yn sylweddol fel rhan o’r DU. Yn hytrach na rhywbeth sy’n gorfod aros nes bod Cymru mewn sefyllfa well o fewn y DU – gobaith annhebygol yn wyneb record yr hanner canrif ddiwethaf – mae Plaid Cymru yn credu mai annibyniaeth yw’r cam cyntaf angenrheidiol tuag at economi Gymreig gryfach a thecach.

Dywedodd yr Athro John Doyle sydd, drwy ei waith, wedi cyfrannu at dystiolaeth Plaid Cymru i’r Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru:

“Nid fy lle i fel academydd Gwyddelig yw cynghori pobl Cymru ar pa ddyfodol cyfansoddiadol y dylen nhw eu dewis, ond mae’r ffigwr o £13.5bn, a ddyfynnir yn aml fel un sy’n cynrychioli cymhorthdal ​​blynyddol llywodraeth y DU i Gymru, yn ymarfer cyfrifo y DU, ac nid yn gyfrifiad o’r bwlch cyllidol a fyddai’n bodoli yn nyddiau cynnar Cymru annibynnol.

“Mae’r ffordd y mae’r bwlch cyllidol ar gyfer Cymru yn cael ei gyfrifo gan Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU yn ddigon clir i ddadansoddiad gwleidyddol benderfynu pa agweddau ar y cymhorthdal ​​hwn fydd yn berthnasol i Gymru annibynnol. Mae fy nadansoddiad wedi pennu y bydd y ffigur tua £2.6bn, sy’n sylweddol is na’r ffigur o £13.4bn, a ddyfynnir yn aml yn y cyfryngau.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Mae’r ymchwil hwn yn chwalu’r ddadl fod Cymru’n rhy fach ac yn rhy dlawd i ffynnu fel cenedl annibynnol.

“Nid yn unig y mae gwaith yr Athro John Doyle yn adeiladu ymhellach y corff o dystiolaeth sy’n cefnogi’r achos dros Gymru annibynnol, mae hefyd yn newid y ddadl ynghylch ei hyfywedd.

“Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed amcangyfrifon gwyllt am y bwlch cyllidol tebygol a fyddai’n bodoli pe baem yn dod yn annibynnol sydd heb unrhyw wraidd mewn realiti. Mae hyn yn dangos unwaith ac am byth bod “economeg ffantasiol” yn cael ei defnyddio gan y rhai sydd yn erbyn nid o blaid annibyniaeth.”

“Bydd annibyniaeth hefyd yn rhoi cyfle i Gymru wella ein heconomi drwy bolisïau sydd wedi’u cynllunio i greu sylfaen economaidd fwy amrywiol gyda mwy o fusnesau bach a chanolig mewn perchnogaeth leol, gan wella cynhyrchiant ac arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus, sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl drwy bolisïau caffael lleol, a buddsoddi yn seilwaith y dyfodol.”

Dadansoddodd yr Athro Doyle brif elfennau’r bwlch cyllidol – gan gynnwys pensiynau, ad-daliadau dyled genedlaethol y DU, a gwariant amddiffyn, ynghyd â thanamcangyfrifon o gyfran Cymru o refeniw treth – a chanfu fod yr elfennau o’r rhain a fyddai’n debygol o drosglwyddo i Gymru annibynnol tua £2.6bn.

Daw’r Athro Doyle i’r casgliad, “Felly nid yw effaith economaidd Cymru annibynnol yn cael ei chyfyngu’n fawr gan y sefyllfa gyllidol bresennol.”

Ychwanegodd yr Athro Doyle, “Y dull glasurol ofalus fu dadlau bod angen i economi Cymru, cynhyrchiant Cymru, ac incwm Cymru dyfu er mwyn cau’r bwlch cyllidol a gwneud annibyniaeth yn fwy ‘ymarferol’.

“Ond mae hon yn ddadl ffug, mewn ffordd. Beth os nad yw’n bosibl tyfu cynhyrchiant Cymru a’r economi heb yr ysgogiadau polisi sydd ar gael i wladwriaeth annibynnol?

“Ers 50 mlynedd mae CMC (GDP) Cymru y pen wedi aros yn gymharol sefydlog ar 75% o GDP cyfartalog y DU y pen, heb fawr o arwydd o’r math o gydgyfeiriant a welir yn Ewrop rhwng lefelau incwm aelod-wladwriaethau’r UE.

“Byddai’n cymryd newid polisi radical iawn i wneud dadl gredadwy bod yr 20 mlynedd nesaf yn debygol o sicrhau canlyniad gwahanol i Gymru. Yn sicr, byddai’n werth archwilio’n fanwl pa offerynnau polisi a ddefnyddiwyd gan aelod-wladwriaethau bach yr UE sydd wedi bod yn fuddiolwyr cydgyfeirio o’r fath ag economïau cyfoethocach.”

“Casgliad fy mhapur yw nad yw bwlch cyllidol Cymru yn ddigon mawr i ddiystyru posibilrwydd o Gymru hyfyw, annibynnol. Gallai’r bwlch cyllidol gael ei gau gan dwf economaidd cymharol fach, ynghyd â pholisi treth gwahanol. Dyma’r meysydd y dylai’r drafodaeth gyhoeddus ar gyllid cyhoeddus Cymru annibynnol ganolbwyntio arnynt.”

“Mae angen i ddadansoddiad economaidd symud ymlaen o ganolbwyntio ar y bwlch cyllidol i archwilio’r rhesymau dros y perfformiad economaidd is hwnnw yng Nghymru a’r diffyg cydgyfeiriant yn fwy cyffredinol rhwng gwahanol rannau’r DU.

“Mae sefyllfa ddaearyddol Cymru a dirywiad ei diwydiannau traddodiadol yn aml yn cael eu cynnig fel esboniadau, ond os yw daearyddiaeth yn ffactor penderfynol, pam fod perfformiad Cymru, yn agos at berfformiad Gogledd Iwerddon yn hytrach na pherfformiad Gweriniaeth Iwerddon – y ddau yn fwy ymylol yn ddaearyddol na Chymru?”


Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.