Uchelgais Plaid Cymru yw cael ein hethol fel y llywodraeth nesaf yng Nghymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn gwireddu'r freuddwyd hir o ffurfio Llywodraeth Cymru sydd o blaid annibyniaeth. Dyma sut y gallwch helpu. 

1. Ymuno

Rydym yn mynd i adeiladu Cymru sy'n deg, yn rhydd ac yn wyrdd. Cymru sy'n llwyddiannus ac yn ffyniannus. Cymru lle mae pawb yn gyfartal ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae ymuno gyda Plaid Cymru yw un o'r ffyrdd gorau y gallwch ein helpu ni - a Chymru - i gyflawni'r nod hwn. 

Fel aelod o Blaid Cymru, byddwch yn cael yr holl offer ac adnoddau ymgyrchu sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan yn ymgyrch yr etholiad - o daflennu i'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddod yn rhan annatod o'r tîm a fydd yn ennill etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. 

A oes unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn cefnogi Plaid Cymru ond nad yw'n aelod eto? Ydych chi wedi siarad â nhw am ymuno? 

Mae gan ymuno fel aelod fanteision eraill hefyd. Gallwch ddweud eich dweud wrth lunio polisi allweddol, mynychu cynadleddau ac ysgolion haf, cael y cyfle i bleidleisio mewn etholiadau mewnol a chwrdd â llawer o bobl eraill o'r un anian sydd am helpu Cymru a'i phobl i gyflawni eu potensial.


2. Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

Gyda chyfyngiadau ar ymgyrchu ar stepen y drws, bydd yn rhaid i ni fod yn greadigol wrth gyfleu'r neges i bobl Cymru. Dyma lle mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan.

Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr digidol heddiw a helpu i ledaenu'r neges i bobl Cymru - bod Cymru'n haeddu llywodraeth fydd yn sefyll dros Gymru ac i bob un ohonom yng Nghymru.

Gallwch helpu i rannu negeseuon drwy lwyfannau allweddol fel Facebook, Twitter ac Instagram neu gallwch helpu i greu cynnwys fel graffeg neu fideos. 


3. Gwirfoddoli

Beth bynnag fo'ch talent, beth bynnag fo'ch diddordebau, beth bynnag fo'ch gallu, mae y Gymru newydd eich angen.

Os ydym am newid ein gwlad, rhaid inni i gyd gymryd cyfrifoldeb am wneud hynny. Ymunwch â'n teulu o weithwyr heddiw, ewch ati i guro drysau, taflennu, canfasio dros y ffôn neu unrhyw beth arall rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei wneud -- a gadewch i ni wneud hanes gyda'n gilydd.


4. Cyfrannu

Rydyn ni'n blaid dros y bobl, gan y bobl. Mae pob ceiniog a godwn yn dod â ni gam yn nes at ffurfio llywodraeth ac yn dod â Chymru'n nes at annibyniaeth.

Os oes gennych hyd yn oed £2 i'w sbario, fe aiff yn bell. Neu, beth am brynu rhai o'n nwyddau? Mae gennym ddigon o ddillad, ategolion a mygiau! 


5. Pleidleisiwch

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud i helpu i ethol y Llywodraeth Cymru cyntaf sydd o blaid annibyniaeth yw pleidleisio amdani. 

Er gwaethaf y Coronafeirws, bydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen ar Fai 6ed 2021 ac mae'n bwysig bod y rhai ohonom sydd am ddewis dyfodol gwell i Gymru yn defnyddio ein llais - a'n pleidlais.

Gwnewch gynllun i bleidleisio. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau a'ch teulu wedi cofrestru i bleidleisio. Siaradwch â phleidleiswyr tro cyntaf - pobl ifanc 16 ac 17 oed. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi cofrestru i bleidleisio. Dywedwch wrthyn nhw am Blaid Cymru. Siaradwch â phleidleiswyr hŷn a'r rhai sydd fwy agored i niwed. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi cofrestru ar gyfer pleidlais drwy'r post neu drwy bleidlais 'proxy'. Dywedwch wrthyn nhw am Blaid Cymru. 

Gwnewch gynllun i bleidleisio ac ar Fai'r 6ed, dywedwch wrth eich ffrindiau, dywedwch wrth eich teulu, dywedwch wrth y byd - i bleidleisio o blaid Cymru drwy bleidleisio dros Blaid Cymru.