Mae 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog yn barhad o'r 25 mlynedd diwethaf dan Lafur
Mae Plaid Cymru yn cynnig 'newid positif' i Gymru - Rhun ap Iorwerth
Mae dydd Iau 14eg o Dachwedd yn nodi 100 diwrnod ers i’r Prif Weinidog, Eluned Morgan gymryd ei rôl fel Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog mae ei blaenoriaethau ei Llywodraeth yw i dorri rhestrau aros, sicrhau twf economaidd a chreu swyddi i helpu taclo newid hinsawdd, cynyddu safonau addysgiadol a chysylltu cymunedau.
Dadlodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y Prif Weinidog heb allu mynd i'r afael â'r materion hyn, a bod dim cynllun gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r materion y maen nhw’n enwi fel blaenoriaeth.
Yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024, siaradodd y Prif Weinidog am sut y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn y DU o fudd i Gymru. Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y buddion hyn heb eu gwireddu gan fod Cymru yn dal i gael ddim yn cael y £4BN o gyllid HS2, datganoli Ystâd y Goron nag ddiwygiad o fformiwla Barnett - rhai o ofynion allweddol Plaid Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
"Mae 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog yn nodi mwy o'r un peth i Gymru.
"Does dal ddim cynllun i fynd i afael â rhestrau aros y gwasnaeth iechyd sydd ar ei uchaf erioed.
"Dim manylion am sut y byddan nhw'n gwella'r system addysg.
"Does dim strategaeth i dyfu'r economi, sy'n golygu fod diffyg swyddi sy'n talu'n dda.
"Ac mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn dal i adael cymunedau wedi’w ddatgysylltu.
"Dywedodd y Prif Weinidog ei hun wrthym mai dyma oedd ei blaenoriaethau pan ddaeth yn ei swydd. Dywedodd hefyd y byddai dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio o fudd i Gymru, er hyn mae'r £4BN sy'n ddyledus i Gymru o HS2 dal yn cael ei wrthod gan San Steffan, ac does dim unrhyw arwydd o ddatganoli Ystâd y Goron nag model ariannu tecach.
"Rydyn ni'n gwybod bod Cymru'n haeddu gwell. Mae Plaid Cymru yn cynnig y newid cadarnhaol y mae ein pobl yn gofyn yn daer amdano. Byddwn ni'n mynd yn ôl at yr hanfodion: trwsio'r gwasanaeth iechyd, rhoi'r offer i bobl ifanc lwyddo, ailadeiladu'r economi, a mynnu tegwch o San Steffan - dyma'r lleiaf y dylai unrhyw lywodraeth ei wneud."