Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn amlinellu blaenoriaethau cyn dechrau tymor newydd y Senedd

Mae angen “dechrau ffres” ar Gymru rhag Lafur, meddai Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Roedd Mr ap Iorwerth yn siarad cyn cynhadledd i’r wasg heddiw (09.30 am, dydd Mawrth 17 Medi) ar ddechrau tymor newydd y Senedd.

Bydd hefyd yn herio Eluned Morgan yn ei chwestiynau cyntaf i’r Prif Weinidog yn ddiweddarach (1.30pm).

Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn nodi’r blaenoriaethau y mae’n disgwyl i’r Prif Weinidog weithredu arnynt gan gynnwys:

  • cerydd cyhoeddus i’r Prif Weinidog am dorri taliadau Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr a chynnal y cap dau blentyn, a galw i newid y polisïau hynny
  • nodi i'r canghellor yr effaith y bydd cyni pellach yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus a mynnu fformiwla ariannu newydd a theg i Gymru i gymryd lle Barnett
  • diwygio'r gwasanaeth iechyd i fynd i'r afael â rhestrau aros

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS nad oedd gwaddol llywodraethau Llafur olynol “erioed wedi bod yn gliriach” a galwodd ar y llywodraeth i weithredu i fynd i’r afael â heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod angen “dechrau ffres” ar Gymru a dywedodd mai dim ond Plaid Cymru oedd â’r “syniadau, egni, a’r uchelgais” i drawsnewid pethau.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Yn anffodus ni fu gwaddol 25 mlynedd o Lafur mewn grym yng Nghymru erioed yn gliriach nag y mae heddiw wrth i ni ddychwelyd heddiw i’r Senedd. 

“Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn uwch nag erioed. Mae gostyngiad sylweddol wedi bod mewn safonau yn ein hysgolion. Mae cyflogau yma yn is na chyfartaledd y DU.

“Ar ôl gaeaf o anfodlonrwydd ac haf o dawelwch, mae dirfawr angen hydref o weithredu gan y Llywodraeth Lafur hon.

“Mae hyn yn golygu dal llywodraeth Lafur y DU yn atebol drwy gondemnio toriad Keir Starmer i daliadau Tanwydd Gaeaf, fydd yn effeithio ar 400,000 o aelwydydd yng Nghymru.  Mae’n ymwneud â rhoi gwlad o flaen buddiannau pleidiol, drwy fynnu tegwch ariannol i Gymru a diwygio Fformiwla Barnett, HS2, a datganoli Ystad y Goron a phlismona. Ac mae'n golygu mynd i'r afael â materion sylfaenol, fel diwygio'r gwasanaeth iechyd i leihau rhestrau aros, yn hytrach na pwyntio bys.

“Mae dŵr coch clir rhwng Llafur yng Nghymru a Keir Starmer yn brin ac oni bai bod y Prif Weinidog yn fwy llafar ac yn gweithredu gyda gwir fwriad wrth sefyll i fyny i benderfyniadau llywodraeth Lafur y DU sy’n gyrru pensiynwyr i dlodi a gwasanaethau cyhoeddus i’r llawr, bydd y ffynnon yn sych.

“Mae Llafur wedi cael eu cyfle i lywodraethu Cymru – dydi pethau yn amlwg ddim yn gweithio.

“Mae angen llywodraeth newydd ar Gymru. Un a fydd yn sefyll i fyny i San Steffan i fynnu tegwch. Un a fydd yn buddsoddi mewn gofal iechyd ataliol. Un fydd yn canolbwyntio ar ddenu cyfoeth, meithrin sgiliau newydd, codi cyflogau, cefnogi busnesau bach, ac annog myfyrwyr i adeiladu eu dyfodol yma yng Nghymru.

“Mae angen dechrau newydd ar Gymru a llywodraeth newydd gyda’r syniadau, yr egni a’r uchelgais sydd eu hangen i drawsnewid pethau – a Phlaid Cymru fydd y llywodraeth honno.